Jump to content
Cyflwyno ein noddwyr ar gyfer Gwobrau 2025
Newyddion

Cyflwyno ein noddwyr ar gyfer Gwobrau 2025

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi ein noddwyr ar gyfer Gwobrau 2025. Ymhlith noddwyr y categorïau eleni mae BASW Cymru, Hugh James, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Practice Solutions. Gallwch ddarllen mwy am ein prif noddwr, Llais, yma.

Y Gwobrau hyn yw gwobrau blynyddol Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu’r gwaith rhagorol sy’n digwydd ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Mae’r beirniadu ar gyfer Gwobrau 2025 yn mynd rhagddo ar hyn o bryd a bydd enillydd pob categori yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yng Ngwesty Mercure Holland House Caerdydd ar 1 Mai 2025.

Ein noddwyr yw:

  • BASW Cymru, noddwr y categori ‘Datblygu ac ysbrydoli’r gweithlu’
  • Hugh James, noddwr y categori ‘Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd’
  • Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, noddwr y categori ‘Gweithio mewn partneriaeth’
  • Practice Solutions, noddwr y wobr 'Arweinyddiaeth Effeithiol’
  • Gofalwn Cymru yw noddwr y wobr 'Gofalwn Cymru’.

Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr: “Mae’n bleser gennym ni groesawu noddwyr ein categorïau yng Ngwobrau 2025.

“Mae BASW Cymru, Hugh James, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Practice Solutions yn ein helpu i gyflawni dathliad blynyddol y sector gofal cymdeithasol. Rydyn ni'n falch iawn o fod yn gweithio gyda nhw ar y Gwobrau, sy’n chwarae rhan hanfodol o ran cydnabod, dathlu a dweud diolch i’n gweithwyr gofal ymroddedig a gweithgar yng Nghymru.

“Mae trefnu’r Gwobrau yn dasg enfawr ac ni allem ei chyflawni heb gefnogaeth ein noddwyr. Diolch yn fawr i chi am eich cefnogaeth barhaus i’r sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.”

Ein noddwyr

Cymdeithas broffesiynol ar gyfer gwaith cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru yw BASW Cymru. Mae’n cefnogi aelodau yn eu hymarfer o ddydd i ddydd, yn ymgyrchu ar faterion allweddol sy’n ymwneud â gwaith cymdeithasol, ac yn dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth y llywodraeth ledled Cymru.

Mae Hugh James yn ymdrin ag ystod amrywiol o arbenigeddau cyfreithiol ac wedi cynnal presenoldeb gweithredol yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r cwmni’n darparu cyngor a chynrychiolaeth i awdurdodau cyhoeddus mewn achosion yn ymwneud â’r Ddeddf Plant a’r Llys Gwarchod, mae’n rhoi cyngor i awdurdodau cyhoeddus, cyrff chwaraeon a sefydliadau eraill ar ddiogelu, mae’n gweithredu ar ran darparwyr gofal mewn materion yn ymwneud ag eiddo, a materion corfforaethol, masnachol a rheoleiddiol, ac mae’n gweithredu ar ran rheoleiddwyr y sector, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn helpu i annog datblygu a defnyddio arloesiadau gwyddor bywyd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r sefydliad yn cysylltu arloeswyr â phartneriaid ymchwil, cyfleoedd ariannu a phobl ar y rheng flaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Wrth gadw’r ddeialog i fynd, maen nhw'n gallu cael yr effaith fwyaf wrth gefnogi arloesiadau sy’n mynd i’r afael â’r anghenion mwyaf hanfodol.

Mae Practice Solutions yn darparu gwasanaeth ymgynghori sy’n seiliedig ar werthoedd i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol a’r sector cyhoeddus ehangach ledled Cymru a’r DU. Mae’r cwmni’n ysgogi newid ystyrlon wrth gyfuno arweinyddiaeth, arloesi digidol a gwella gwasanaethau, tra’n cynnal ymrwymiad i bobl a chymunedau.

Mae Gofalwn Cymru yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o ofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar. Ei nod yw denu rhagor o bobl â’r sgiliau a’r gwerthoedd cywir i weithio mewn rolau gofalu gyda phlant ac oedolion.