Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai Llais yw prif noddwr Gwobrau 2025.
Y Gwobrau hyn yw gwobrau blynyddol Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu’r gwaith rhagorol sy’n digwydd ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Bydd Alyson Thomas, Prif Weithredwr Llais, yn rhoi anerchiad agoriadol yn seremoni Gwobrau 2025 yng Ngwesty Mercure Holland House Caerdydd ar 1 Mai 2025.
Mae Llais yn gorff cenedlaethol annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llais cryfach i bobl Cymru mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Ei rôl yw sicrhau bod llais y cyhoedd yn cael ei glywed gan y sawl sy’n gwneud penderfyniadau. Mae timau Llais lleol yn casglu profiadau pobl o ddefnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i helpu’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau i gynllunio a darparu gwasanaethau gwell ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae gan Llais bedair dyletswydd allweddol. Mae’n ymgysylltu â phobl a chymunedau ac yn gwrando ar eu profiadau o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae’n cynrychioli’r safbwyntiau hynny i ddarparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn ogystal, mae’r sefydliad yn darparu gwasanaeth eiriolaeth cwynion ym mhob rhanbarth yng Nghymru, ac mae’n hyrwyddo ymwybyddiaeth o’i waith ymhlith y cyhoedd a chymunedau lleol.
Meddai Alyson Thomas, Prif Weithredwr Llais: “Mae Llais yn falch iawn o fod yn brif noddwr Gwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru yn 2025. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle hanfodol i ddathlu ymroddiad ac arloesedd ym maes gofal cymdeithasol ledled Cymru.
“Mae mor bwysig cydnabod ymdrechion unigolion, timau a sefydliadau sy’n mynd gam ymhellach a thu hwnt i gefnogi pobl Cymru. Rydyn ni yn Llais yn hyrwyddo lleisiau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, ac mae’r gwobrau hyn yn amlygu pam mae hynny mor bwysig. Wrth wrando ar brofiadau bywyd a’u gwerthfawrogi, gallwn sicrhau bod gwasanaethau gofal a chymorth yn canolbwyntio’n wirioneddol ar yr unigolyn ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.
“Mae’n brofiad cyffrous bod yn rhan o ddigwyddiad sy’n arddangos arferion da, yn ysbrydoli eraill, ac yn cyfrannu at ddyfodol gwell i ofal cymdeithasol yng Nghymru.”
Dywedodd Sarah McCarty, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Mae’n bleser gennym ni groesawu Llais fel prif noddwr Gwobrau 2025 ac rydyn ni'n falch iawn ei fod wedi cytuno i noddi ein gwobrau.
“Y Gwobrau yw ein cyfle i ddiolch i’n timau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru ac i arddangos y gwaith gwerthfawr y maent yn ei wneud i gefnogi ein dinasyddion mwyaf agored i niwed.
“Ni fyddem yn gallu cynnal y Gwobrau heb gefnogaeth ein noddwyr. Felly, rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Llais am ein helpu i ddathlu arferion gwych a manteisio ar y cyfle hwn i ddangos ei gefnogaeth i’r sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar wrth ddod yn brif noddwr y gwobrau.”