Darllenwch am y rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y wobr Arweinyddiaeth Ysbrydoledig a phleidleisiwch dros enillydd.
Noddir y wobr gan Practice Solutions.
Darllenwch am y rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y wobr Arweinyddiaeth Ysbrydoledig a phleidleisiwch dros enillydd.
Noddir y wobr gan Practice Solutions.
Bydd y Gwobrau yn cael ei gynnal yng Ngwesty Mercure Holland House Caerdydd ar ddydd Iau 1 Mai.
Y flwyddyn hon, bydd enillwyr o ddau gategori yn cael eu dewis gan y cyhoedd:
Mae tri gweithiwr o ar draws y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar wedi'u dewis ar gyfer rownd terfynol y wobr Arweinyddiaeth Effeithiol.
Mae'r bleidlais ar agor tan 5pm, 31 Mawrth.
Enwebwyd gan Corinne Everett-Guy, Uwch-reolwr Timau Gwaith Cymdeithasol yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin.
Dechreuodd Avril ei gyrfa mewn gofal cymdeithasol 45 mlynedd yn ôl fel gweithiwr dan hyfforddiant mewn gwasanaethau plant. Yn ystod ei gyrfa, dywed Corinne fod Avril “wedi profi ei bod yn arweinydd ac yn llysgennad cryf ar gyfer gofal cymdeithasol oedolion” a’i bod hi “yn gwthio ffiniau yn gyson i greu newid cadarnhaol, parhaol”.
Mae Avril wedi cefnogi “dulliau arloesol” mewn gofal cymdeithasol oedolion ac roedd hi’n rhan annatod o ddatblygu’r Noddfa Hwyrnos, sef gwasanaeth lles y tu allan i oriau i bobl mewn perygl o gael argyfwng iechyd meddwl.
Mae “caredigrwydd, anhunanoldeb, uniondeb a pharodrwydd Avril i fynd y filltir ychwanegol” yn golygu ei bod hi’n dangos “parch ac urddas cyson tuag at bawb mae hi’n cyfarfod â nhw”.
Dywed Corinne fod Avril yn “ysbrydoliaeth, gan osod meincnod ar gyfer rhagoriaeth mewn arweinyddiaeth gofal cymdeithasol. Mae ei gallu i ysbrydoli a symbylu ei gwasanaeth wedi arwain at ddiwylliant o welliant parhaus a safonau uchel.”
Mae un cyfarwyddwr yn disgrifio bod Avril fel “arweinydd ysbrydoledig mewn gofal cymdeithasol. Yn ei chyfnod fel Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn Sir Gaerfyrddin, mae hi wedi trawsnewid gofal cymdeithasol oedolion, gan newid bywyd cannoedd o oedolion agored i niwed.” Ychwanega, “mae Avril yn ymgorffori arweinyddiaeth yn seiliedig ar werthoedd.”
Mae Avril wedi eiriol dros ofalwyr di-dâl ac mae wedi datblygu mentrau i wella ymarfer, hefyd. Aeth ymhell y tu hwnt i’r disgwyl i gefnogi ei thîm yn ystod pandemig Covid-19, gydag un uwch-reolwr yn dweud: “O 7 y bore tan 11 y nos, gweithiodd Avril yn ddiflino i sicrhau bod ein tîm yn barod ar gyfer y pandemig. Fe wnaeth ei rhagofal a’i chynllunio trwyadl sicrhau bod gan yr holl staff ddigon o PPE a chefnogaeth.”
Enwebwyd gan Alex Williams, Rheolwr Grŵp – Hybiau Ardal.
Mae Ffion wedi gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ers 11 mlynedd ac mae’n Rheolwr Tîm Hyb Ardal Tîm y Gogledd.
Cydnabyddir arddull arwain Ffion ar draws yr awdurdod lleol. Mae gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso neu amhrofiadol yn aml yn cael eu gosod yn ei ‘hacademi gwaith cymdeithasol’ am eu chwe mis cyntaf yn y gwaith. Yma, cânt eu cefnogi a’u meithrin gan dîm arbenigol Ffion.
Hefyd, mae Ffion yn cynnig mentora ffurfiol a chymorth anffurfiol i reolwyr sydd eisiau dysgu sut i ddatblygu diwylliant ac arddull arwain Ffion a’i thîm.
Yn rhan o’i rôl, mae Ffion yn arwain cefnogi gweithwyr cymdeithasol sydd wedi cael eu recriwtio’n rhyngwladol.
Yn flaenorol, roedd dros 50 y cant o’r staff yn weithwyr asiantaeth, ond mae nifer y staff asiantaeth wedi lleihau’n sylweddol mewn cwta 18 mis ac mae dros 50 y cant o’r gweithwyr cymdeithasol yn yr hybiau ardal bellach yn rhyngwladol.
Meddai un gweithiwr cymdeithasol rhyngwladol: “Sicrhaodd Ffion fod y broses sefydlu mor hwylus â phosibl, esboniodd hi bopeth a’m helpu i ymgartrefu’n dda, gartref ac yn y tîm.”
Mae Ffion wedi helpu i adeiladu gweithlu cyson a sefydlog, sydd o fudd i blant a theuluoedd yn yr ardal, gan fod gweithwyr yn gallu meithrin perthynas barhaus â’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.
Hefyd, mae Ffion yn cadw lleisiau plant a theuluoedd yn ganolog i ymarfer ei thîm.
Meddai’r Uwch Weithiwr Cymdeithasol, Hannah Jones: “Mae [Ffion] yn haeddu hyn gymaint. Mae’n derbyn popeth fel y daw ac mae hi bob amser yn barod i helpu. Ers i mi fod yn y tîm, rwy’ wedi dysgu cymaint heb deimlo dan bwysau, ond yn cael fy nghefnogi bob amser."
Enwebwyd gan Nune Aleksanyan, Ruth Griffiths, Chris Frey Davies, Maria Selby a Victoria Smith, bob un yn brif swyddogion yng Ngwasanaethau Plant a Phobl Ifanc Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
Mae Keri wedi bod yn rhan “ymroddedig” o’r uwch dîm rheoli yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot ers 2012, pan ymunodd fel Prif Swyddog, cyn dod yn Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc yn 2018.
Dywed y prif swyddogion fod Keri wedi bod “yn ddim llai nag eithriadol” yn y ffordd mae hi wedi arwain gwasanaethau plant Castell-nedd Port Talbot. A hithau’n “garedig ei natur”, mae Keri yn blaenoriaethu lles staff, wrth i’r tîm weithio tuag at “gyflawni deilliannau cadarnhaol i deuluoedd”. Mae Keri yn atgoffa’r tîm am bwysigrwydd ymarfer gwaith cymdeithasol da trwy greu amgylchedd dysgu iach a diogel, annog trafodaethau agored a chael ymateb cyfunol i reoli risg.
Mae Keri wedi gwneud yn siŵr bod y systemau a’r prosesau cywir ar waith i sicrhau bod staff yn teimlo’n ddiogel pan fyddant yn delio â sefyllfaoedd anodd yn y gymuned.
Mae adborth gan staff y gwasanaeth yn amlygu natur agos atoch a chefnogol Keri. Dywed un aelod o staff: “Mae Keri yn gefnogol ac mae’n annog cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith fel y gallwn ddelio â bywyd y tu hwnt i’r gwaith heb deimlo’n euog.”
Dywed un uwch reolwr: “Mae [Keri] yn gosod safon uchel trwy esiampl ac mae bob amser yn ystyried ffyrdd o roi cyfleoedd i weithwyr ddatblygu a thyfu fel ymarferwyr. Mae llais y plentyn a’r teulu o’r pwys mwyaf iddi.”
Mae ffocws Keri ar les a datblygiad proffesiynol staff, a dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn, wedi creu “amgylchedd cefnogol sy’n meithrin arloesi a chydweithredu”.