Jump to content
2. Arweinyddiaeth a llywodraethu

Mae'r adran hon ar gyfer sefydliadau a phartneriaethau lleol.

Mae’n bwysig bod awdurdodau lleol, byrddau iechyd a byrddau partneriaeth lleol i gyd yn cael eu cynnwys yn arweinyddiaeth a llywodraethiant y ‘system gyfan’ sy’n cynorthwyo pobl sy’n byw gyda dementia. Mae hyn yn cynnwys meithrin diwylliant sy’n parchu ac yn buddsoddi mewn gofal dementia sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn unol â’r Fframwaith Gwaith Da.

Mae buddsoddi amser ac adnoddau arweinyddiaeth mewn dysgu a datblygu yn gam pwysig wrth ddarparu gofal a chymorth dementia sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn ffordd gyson yn y rhanbarth.

Bydd diwylliant cadarn yn galluogi pobl ar bob lefel ac mewn nifer o rolau gwahanol i fabwysiadu rôl arwain yn eu gwaith ac yn yr holl feysydd y gallant ddylanwadu arnynt.

Beth sy’n gweithio’n dda

Mae’n bwysig bod comisiynwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn ogystal â darparwyr gwasanaethau yn gallu dweud wrth bawb y maent yn darparu gofal iddynt: “Rydym yn sicr y byddwch yn cael gofal cyson wedi’i seilio ar werthoedd craidd, pwy bynnag fydd yn darparu gofal i chi.”

Arweinyddiaeth: dull system gyfan

Rôl arweinyddiaeth gadarn yw helpu staff i sefydlu gofal seiliedig ar dystiolaeth i bobl sy’n byw gyda dementia. Mae angen iddo fod yn ddull system gyfan sy’n cael ei lywio gan arweinwyr y sefydliad.

Dylid newid diwylliannau gweithleoedd drwy fuddsoddi mewn arweinwyr clinigol neu arbenigwyr dementia, a mabwysiadu dulliau datblygu ymarfer sy’n canolbwyntio ar brosesau, pobl a chanlyniadau.

Mae’r Siarter Ysbytai sy’n Deall Dementia yn canolbwyntio ar egwyddorion SPACE - VG yr RCN (2019) ar gyfer arweinwyr a staff ym mhob maes iechyd a gofal cymdeithasol.

  • Staffio
  • Partneriaeth
  • Asesu
  • Gofal
  • Amgylchedd
  • Gwirfoddoli
  • Llywodraethu

Hyfforddiant ac addysg effeithiol o ansawdd da mewn gofal i’r holl staff yw’r sylfaen i egwyddorion SPACE-VG.

Useful resources

  • Mae The UK Network of Dementia Voices yn cynnig nifer o ganllawiau i’ch helpu i gynnwys pobl sy’n byw gyda dementia yn eich gwaith. Mae’r adnodd yma ar gael yn Saesneg yn unig.

  • Mae dogfen Connecting with People Diverse Cymru yn cynnwys adnoddau defnyddiol, yn cynnwys canllaw i helpu darparwyr i gysylltu â phobl o gefndiroedd amrywiol a’u cynnwys wrth ddylanwadu a gwneud penderfyniadau am wasanaethau.

    Yn ogystal â hyn, mae canllaw i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ynghylch darparu gofal dementia i bobl o wahanol gymunedau. Mae’r adnoddau yma ar gael yn Saesneg yn unig.
  • Gellir defnyddio Pecyn Cymhwysedd Diwylliannol Diverse Cymru yn rhan o bob proses cynllunio ar gyfer dysgu a datblygu mewn gofal dementia. Bydd yn eich helpu i gwrdd â’r anghenion diwylliannol amrywiol sydd gan bobl â dementia a’u teuluoedd yn eich ardal.

    Mae hefyd yn cynnig canllaw ar gwrdd ag anghenion diwylliannol a chrefyddol pobl sy’n byw gyda dementia. Mae’r adnoddau yma ar gael yn Saesneg yn unig.

  • Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru. Ugain o ddisgrifyddion safonau lefel uchel sy’n amlinellu beth mae pobl yn credu a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol mewn gofal dementia yng Nghymru. Gall fod o gymorth i arweinwyr lleol.

    Mae Ffrwd waith 5: Datblygu a Mesur y Gweithlu yn cynnwys set o gwestiynau hunanasesu a fydd yn helpu pob ffrwd waith i baratoi, pennu meysydd i ganolbwyntio arnynt a sicrhau bod cymorth ar gael gennych i gwrdd â phrif ofynion y llwybr safonau gofal dementia.

Yr adran nesaf: Strwythur a chynllunio

Ewch i'r adran nesaf: 3. Strwythur a chynllunio.

Cyhoeddwyd gyntaf: 15 Mehefin 2022
Diweddariad olaf: 25 Medi 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (46.5 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch