Mae dulliau dysgu a datblygu yn cael eu cynllunio a’u dylunio drwy gydgynhyrchu â phobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd. Wrth wneud hyn, rhoddir sylw i amrywiaeth y rheini sy’n byw gyda dementia.
Mae grŵp gweithlu sy’n gyfrifol am gynllunio a darparu gweithgareddau dysgu a datblygu mewn gofal dementia. Mae’r grŵp hwn:
- yn cytuno ar flaenoriaethau dysgu a datblygu – y wybodaeth a’r sgiliau sydd angen eu datblygu, eu gwella a’u diweddaru
- yn cael cymorth gan bartneriaid yn yr holl feysydd iechyd a gofal cymdeithasol
- yn datblygu cynllun ar gyfer yr hyn sydd angen ei wneud a sut
- yn cael mynediad at staff dysgu a datblygu, rhaglenni, adnoddau ymarferol a chyllideb ddigonol i ddarparu’r gweithgareddau dysgu a datblygu.
Mae cynlluniau dysgu a datblygu’r gweithlu:
- wedi’u seilio ar anghenion y boblogaeth leol. Mae gwybodaeth ar gael yn yr asesiad o anghenion y boblogaeth leol
- yn gynhwysfawr.
- Maent yn ymdrin â’r canlynol:
- anghenion yr holl staff, gwirfoddolwyr a gofalwyr yn y rhanbarth sy’n dod i gysylltiad â phobl sy’n byw gyda dementia o ddydd i ddydd
- pob un o bum egwyddor SPACE yr RCN.
- yn seiliedig ar gryfderau ac wedi’u teilwra ar gyfer gwahanol grwpiau staff ar sail gwybodaeth am beth sy’n gweithio’n ymarferol
- yn cael eu cydgynhyrchu â phobl sy’n byw gyda dementia, teuluoedd a chymunedau lleol
- yn meithrin dylanwadwyr lleol i helpu i sicrhau’r newidiadau.
- Bydd y dylanwadwyr:
- yn perchenogi ac yn hyrwyddo’r weledigaeth a’r camau gweithredu
- yn rhai ym mhob rhan o’r system ac ar bob lefel. Er enghraifft, gofalwyr, clinigwyr ac ymarferwyr sydd â phrofiad o roi gofal ar waith sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sydd â meddwl agored am newid.
- yn cynnwys cynllun (a elwir yn fframwaith yn aml) yn dangos sut bydd anghenion am ddysgu a datblygu mewn gofal dementia yn cael eu diwallu yn unol â thestunau dysgu a chanlyniadau’r Fframwaith Gwaith Da ar gyfer:
- grwpiau o bobl wybodus
- grwpiau o bobl fedrus
- dylanwadwyr.
Mae’n bwysig bod y fframwaith yn ei gwneud yn hawdd i staff ac eraill sydd â diddordeb gael cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu a datblygu.
Dylai gynnig cyfleoedd dysgu amrywiol sydd wedi’u seilio ar broses o wrando ar staff.