Skip to main content
Hygyrchedd ar y wefan

Covid-19: Gwybodaeth, arweiniad ac adnoddau i'ch cefnogi trwy'r pandemig

Tudalen hafan Covid-19
Symud o ofal preswyl i blant i fynd i fyw’n annibynnol

Dysgwch fwy am gefnogi'r person ifanc rydych chi'n gofalu amdano i adael gofal preswyl i blant a symud i fyw'n annibynnol

Cyflwyniad i adael gofal preswyl i blant

Mae llawer o bobl ifanc yn dweud bod eu profiad o fod mewn gofal wedi gwella eu bywyd ac mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal wedi bod ar flaen y gad yn ceisio herio’r stigma sy’n cyd-fynd â bod ‘mewn gofal’ a hyrwyddo darlun mwy cytbwys.

Mae eich rôl chi’n hanfodol wrth helpu i roi sgiliau bywyd a gwytnwch meddyliol i’r bobl ifanc sy’n paratoi i adael gofal preswyl a symud i fyw’n annibynnol. Bydd hwn yn gam mawr i nifer o blant. Bydd ganddynt well cyfle o fywyd sefydlog, diogel ac annibynnol os byddwch chi wedi eu paratoi’n dda ar gyfer y daith.

Bydd rhai o’r plant anabl rydych chi’n rhoi cefnogaeth iddyn nhw yn pontio o ofal preswyl i blant i ofal preswyl i oedolion anabl yn hytrach na symud i fyw’n annibynnol.

Cynllunio llwybrau

Pan mae person ifanc ar fin troi’n 16, bydd yr awdurdod lleol yn paratoi cynllun llwybr i roi cefnogaeth iddynt wrth symud o ofal preswyl. Bydd y cynllun llwybr yn rhestru beth sydd angen ei wneud gan:

  • yr awdurdod lleol
  • gofalwr y person ifanc
  • y person ifanc
  • y rhiant/rhieni
  • unrhyw un arwyddocaol arall.

Bydd y cynllun llwybr yn parhau ar ôl i’r person ifanc droi’n 18. Mae mwy o wybodaeth am gynllunio llwybrau ar gael ym Mhennod 5 Rhan 6 y Côd Ymarfer.

Icon dogfen
Dogfen
Côd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol

Profiad pobl ifanc o adael gofal

I bobl ifanc, mae’r profiad o adael gofal preswyl yn gallu bod yn frawychus. Gall wneud iddynt deimlo eu bod ar ddibyn gan fod y gefnogaeth maen nhw wedi arfer ag e’n dod i ben. Mae hyn yn amlwg o sylwadau’r rhai sy’n gadael gofal a gasglwyd gan Voices from Care: 

  • “Roedd yn mynd o gartref preswyl prysur i fod ar ben fy hun yn brofiad unig”
  • “Mae’n rhy dawel”
  • “Dw i wedi mynd o sefyllfa ble roedd gofalwyr o gwmpas drwy’r amser i sefyllfa ble dw i’n gweld un person o bryd i’w gilydd”
  • “Roedd angen mwy o gefnogaeth arna’ i. Roedd fy iechyd meddwl i’n dioddef ac fe fu’n rhaid i mi fynd i mewn i’r ysbyty cyn i unrhyw un gynnig helpu.”

Barn Pobl Ifanc ar Adael Gofal Preswyl, Voices from Care (Saesneg yn unig)

Mae cynllunio da, gwaith paratoi a chefnogaeth gennych chi’n allweddol yn y broses bontio hon.  

Rhoi sgiliau bywyd i bobl ifanc

Mae gennych rôl allweddol yn sicrhau bod gan y bobl ifanc sy’n gadael gofal y sgiliau cywir i allu byw ar eu pennau eu hunain. Bydd rhai o’r sgiliau sydd eu hangen yn rhai ymarferol; er enghraifft, sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r amserlenni bws lleol a’u bod yn gallu rheoli eu harian. Bydd sgiliau eraill yn rai mwy meddyliol, fel sut i wneud penderfyniadau da a sut i reoli eu hamser. Gall cynllun llwybr y person ifanc gynnwys rhaglen byw’n annibynnol er mwyn datblygu eu sgiliau bywyd.

Dyma restr mewn trefn amser o sgiliau bywyd y byddem yn disgwyl i blentyn allu eu gwneud ar wahanol adegau yn ei fywyd. Mae’n bwysig cofio nad yw pob plentyn yn datblygu mor gyflym nac i’r un graddau â phlant eraill.

Plant 4 a 5 oed: Enwau a rhifau pwysig

Dyma pryd y dylech chi ddysgu sgiliau diogelwch iddynt. Dylai plentyn wybod:

  • Eu henw llawn, eu cyfeiriad a rhif ffôn i gysylltu â chi
  • Sut i wneud galwad ffôn mewn argyfwng

Dylech eu dysgu hefyd sut i:

  • Cwblhau tasgau glanhau syml fel tynnu llwch a chlirio’r bwrdd bwyd
  • Didoli eu dillad glân a’u rhoi i gadw a rhoi dillad budr yn y fasged
  • Dewis eu dillad eu hunain a gwisgo
  • Bwydo anifeiliaid anwes
  • Adnabod arian a deall y broses o dalu am bethau
  • Brwsio’u dannedd, cribo’u gwallt ac ymolchi eu hwyneb heb gymorth
  • Sgiliau nofio sylfaenol

Plant 6 a 7 oed: coginio syml

Gall plant yr oedran hwn ddechrau helpu i goginio prydau bwyd a dysgu sut i:

  • Cymysgu, troi a thorri gyda chyllell sy’n addas i blant
  • Paratoi pryd o fwyd syml, fel brechdan
  • Helpu i roi bwyd i gadw ar ôl bod yn siopa
  • Golchi’r llestri

Dylech eu dysgu hefyd sut i:

  • Defnyddio deunydd glanhau tŷ sylfaenol yn ddiogel
  • Tacluso’r ystafell ymolchi ar ôl ei defnyddio
  • Gwneud y gwely heb gymorth.

Plant 8 a 9 oed: balchder yn eu heiddo personol

Erbyn hyn, mae plant yn barod i ddysgu am ofalu am eiddo personol, yn cynnwys:

  • Plygu dillad
  • Gofalu am deganau sy’n cael eu defnyddio tu allan fel beic.

Dylech eu dysgu hefyd sut i:

  • Bod yn gyfrifol am eu hylendid personol heb gael eu hatgoffa
  • Defnyddio brwsh, mop a sugnydd llwch
  • Dilyn rysáit a pharatoi pryd o fwyd syml
  • Gosod larwm ar y cloc a chodi o’r gwely
  • Helpu i lunio rhestr siopa
  • Rhoi newid yn ôl o swm o arian
  • Mynd â’r biniau allan
  • Penderfynu ydyn nhw eisiau rhoi, cynilo neu wario arian.

Plant 10 i 13 oed: bod yn fwy annibynnol

Yn ddeng mlwydd oed, dylai plentyn allu gwneud nifer o bethau’n annibynnol. Dylent wybod sut i:

  • Mynd i siop leol a phrynu pethau ar eu pen eu hunain
  • Newid y dillad gwely
  • Defnyddio’r peiriant golchi
  • Cynllunio a pharatoi pryd o fwyd sy’n cynnwys ychydig o gynhwysion
  • Defnyddio’r ffwrn
  • Deall y cysyniad o reoli amser mewn perthynas â gwaith cartref, tasgau o gwmpas y tŷ ac amser hamdden.

Dylech eu dysgu hefyd sut i:

  • Darllen labeli
  • Smwddio dillad
  • Defnyddio offer llaw sylfaenol.

Plant 13 i 15 oed: sgiliau pellach

Erbyn eu bod yn 14, dylai plant fod wedi meistroli’r sgiliau a restrwyd uchod. Wrth ddatblygu’r rhain ymhellach, dylent hefyd allu:

  • Cwblhau tasgau mwy anodd o gwmpas y tŷ, fel glanhau’r ffwrn
  • Creu calendr a rhoi’r wybodaeth berthnasol i mewn yn ôl yr angen
  • Cymharu prisiau mewn siopau
  • Deall amserlenni bws a thrên lleol
  • Deall arian mewn ffordd sylfaenol, er enghraifft y syniad o gyfrif cynilo
  • Sut i gofio cyfrineiriau, er enghraifft ar gyfer cyfrifon e-bost a chyfryngau cymdeithasol. Bydd y sgil hon yn un bwysig ar gyfer bancio a thalu biliau.

Plant 15 i 18 oed: paratoi at fyw’n annibynnol

  • Deall sut i reoli cyfrif banc, talu bil a sut mae credyd yn gweithio. Bydd angen cyfrif banc ar bobl ifanc mewn addysg ôl-16 er mwyn derbyn unrhyw arian sydd ar gael iddynt
  • Deall cytundebau sylfaenol, fel rhai ar gyfer ffonau symudol neu ar gyfer rhentu llety
  • Cyllidebu
  • Gwneud cais am rif Yswiriant Gwladol (NI) mor agos â phosibl at eu pen-blwydd yn 16. Mae angen rhif NI arnynt er mwyn gallu cwblhau hyfforddiant ôl-16
  • Darllen a deall labeli a gwybodaeth am ddos gywir ar feddyginiaeth
  • Paratoi ystod o brydau bwyd
  • Cwblhau cais am swydd ac ysgrifennu CV
  • Gwneud cais am eu pasbort eu hunain. Mae hyn yn bwysig: os yw’r person ifanc angen gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gwirio manylion yn erbyn eu manylion pasbort. Os nad oes gan unigolyn basbort, gall hyn olygu oedi yn y taliadau am chwech i wyth wythnos.

Rhoi cefnogaeth i bobl ifanc sydd mewn addysg bellach ac uwch

Dylech fod yn ymwybodol o’r dewisiadau sydd ar gael i bobl ifanc i barhau â’u haddysg, yn cynnwys cymorth ariannol.

Mewn nifer o achosion, dyw’r bobl ifanc sy’n gadael gofal ddim yn cyrraedd lefel ddigonol o addysg na hyfforddiant i fyw’n sefydlog, diogel ac annibynnol. Mae’ch rôl chi’n allweddol wrth eu cyfeirio nhw at y wybodaeth a’r adnoddau cywir.

Mae Pecyn Cymorth i'r Rhai sy'n Gadael Gofal defnyddiol ar gael sy’n cynnig cyngor ac arweiniad cam wrth gam ynglŷn â chyrsiau dysgu a hyfforddiant ôl-16.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnal Prosiect Dyfodol Hyderus. Mae’r prosiect wedi ei anelu at bobl ifanc dros 14 oed sydd â phrofiad o ofal neu sy’n gadael gofal. Caiff y bobl ifanc eu paru gyda mentoriaid sy’n fyfyrwyr prifysgol ar hyn o bryd. Mae’n cynnig:

  • Dyddiau blasu yn y brifysgol
  • Gweithdai i gefnogi astudiaethau a cheisiadau coleg, prifysgol neu geisiadau am swydd
  • Gweithdai adolygu
  • Sesiynau cyngor i gyd-fynd â Chynlluniau Addysg Bersonol
  • Digwyddiadau cymdeithasol.

Mae nifer o brifysgolion yn cynnal cynlluniau tebyg a gall y rhain fod yn ddefnyddiol iawn i gyflwyno pobl ifanc i’r cyfleoedd a’r cymorth sydd ar gael iddynt ar gyfer dysgu, datblygu a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Mae gan fwyafrif y prifysgolion berson cyswllt allweddol ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal. Gall y person hwn eu helpu gyda:

  • Gwneud cais am arian i fyfyrwyr ac unrhyw adnoddau ychwanegol
  • Rheoli arian yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol
  • Cymorth gyda materion academaidd
  • Dod o hyd i lety ac ymdrin â phroblemau gyda landlordiaid. 

Cymorth ariannol er mwyn parhau i ddysgu

Os ydyn nhw’n astudio cwrs is na lefel gradd, gall pobl ifanc rhwng 18 a 21 oed sy’n gadael gofal wneud cais am Gymhorthdal Incwm a Budd-dal Tai. Yr unig amod yw eu bod wedi cofrestru ar y cwrs cyn eu pen-blwydd yn 19.

Gall pobl ifanc dros 19 hefyd wneud cais am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru Addysg Bellach. Grant o hyd at £1,500 yw hwn ar gyfer astudio’n llawn amser ond mae’n ddibynnol ar lefel incwm cyffredinol y sawl sy’n gwneud cais.

Grant Dysgu Llywodraeth Cymru Addysg Bellach

Mae nifer o brifysgolion yn cynnig cynllun bwrsariaeth ar gyfer rhai sy’n gadael gofal. Mae’r rhain ar agor i rai sy’n gadael gofal neu i fyfyrwyr sydd ddim mewn cysylltiad â’u rhieni. Maent yn cynnig cymorth ariannol o hyd at £3,000. Mae awdurdodau lleol hefyd yn darparu arian trwy grantiau neu fwrsariaethau.

Mae’r Fwrsariaeth Addysg Uwch yn £2,000 ond mae symiau dewisol eraill fel arfer ar gael hefyd, gan gynnwys cymorth i dalu am lety y tu hwnt i ddyddiadau’r tymor. Mae mwy o wybodaeth am arian a chefnogaeth mewn addysg uwch ar gael ar y wefan benodol i’r rhai sy’n gadael gofal, Propel.

Propel (Saesneg yn unig)

Yng Nghymru, mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cael eu heithrio o dalu treth cyngor tan eu pen-blwydd yn 25.

Mae gan bobl ifanc rhwng 21 a 25 sydd wedi gadael addysg ond sydd wedyn yn penderfynu mynd i’r coleg hawl i gymorth ychwanegol i wneud hynny, ond bydd angen iddynt wneud cais trwy’r awdurdod lleol. Does dim trefniant awtomatig i sicrhau bod y cymorth hwn ar gael a does dim dyletswydd barhaus ar yr awdurdod lleol i gadw mewn cysylltiad â nhw.

Cymorth gan yr awdurdod lleol gyda sgiliau ar gyfer cyflogaeth

Mae awdurdodau lleol yn cynnig ystod o raglenni i wella’r cyfleoedd gwaith a gyrfa sydd ar gael i bobl ifanc sy’n gadael gofal.

Mae mwy o wybodaeth am y cyfleoedd hyn ar draws Cymru ar gael trwy’r cydlynydd Addysg Plant Sy’n Derbyn Gofal perthnasol.

Manylion cyswllt Cydlynwyr Addysg Plant Sy’n Derbyn Gofal

Cadw cyswllt gyda phlant ar ôl iddynt adael y cartref

Fel sydd wedi ei drafod ar y dudalen Ffiniau proffesiynol, ni ddylech gysylltu’n answyddogol â’r bobl ifanc rydych chi’n gofalu amdanynt. Mae’r un peth yn wir unwaith y mae’r bobl ifanc wedi gadael y cartref.

Efallai bod gan eich cartref dudalen Facebook neu hyb cyswllt ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal i’w galluogi i aros mewn cysylltiad gyda’r staff neu gyda phlant o’r cartref. Dylai pob cyswllt ddigwydd trwy’r sianel swyddogol hon a dylech ddilyn polisïau eich gweithle bob amser. 

Gall cyfnod pontio fod yn anodd i weithwyr hefyd

Mae’n bosibl y bydd cyfnodau pontio’n anodd i chi fel gweithiwr, yn ogystal ag i’r person ifanc. Efallai y byddwch yn teimlo hiraeth pan fydd y person ifanc yn gadael, yn ogystal ag emosiynau eraill fel pryder ynglŷn â sut bydd y person yn ymdopi â byw y tu allan i’r cartref. Mae dolenni i’ch helpu chi i ofalu am eich lles meddyliol chi ar gael ar y dudalen Deall ymddygiad heriol mewn plant.

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd gweithwyr gofal preswyl i blant drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.