Mae'r dudalen hon am y niferoedd o blant sy'n derbyn gofal yn rhan o fenter newydd i helpu pobl yng Nghymru i gael mynediad i ymchwil ar bynciau sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol. Dewisir neu 'curadir' yr ymchwil gan bobl sydd â phrofiad proffesiynol o ymchwil yn y maes pwnc.
Beth ydyn ni'n ei olygu wrth blant sy'n derbyn gofal
Mae plentyn neu berson ifanc yn cael ei ddisgrifio fel un sy’n derbyn gofal os yw’r awdurdod lleol yn trefnu ei gofal a/neu lle maent yn byw. Fel arfer mae gofal yn cael ei drefnu hefo gofalwyr maeth ( weithiau yn cael eu galw yn rhieni maeth), gydag aelodau eraill o’r teulu neu trwy osod y plentyn mewn cartref plant. Gall trefniadau fod am gyfnod byr neu hirach, gall fod yn sgil gorchymyn llys, neu drwy drefniant gwirfoddol â rhiant (rhieni) y plentyn. Mae’r amrywiaeth hwn, yn ogystal ag oedran y person ifanc; pwrpas darparu gofal a'i lwybr allan o ofal yn gwneud bob achos yn unigol gydag anghenion amrywiol.
Beth yw’r sefyllfa yng Nghymru?
Mae nifer y plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru wedi codi’n sylweddol dros y deng mlynedd diwethaf. Yn 2018 roedd 6405 i gymharu â 4635 yn 2008 - cynnydd o dros 38%.
Am fwy o wybodaeth ar y nifer o blant sy’n derbyn gofal yng Nghymru ers 2006, gwelwch Set Ddata Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae gwahaniaethau sylweddol rhwng cyfraddau o blant sydd yn derbyn gofal rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae lefelau amddifadedd yn esbonio rhan o’r gwahaniaeth yma, fodd bynnag mae yna ffactorau arall. Ffactorau gan gynnwys os oes gan bobl fynediad at wasanaethau eraill, sut mae awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau, eu lefelau staffio a diwylliant sefydliadol.
Mae crynodeb o'n nhraethawd PhD “Looked-after” children in Wales: An analysis of the backgrounds of children entering public care yn edrych ar wahaniaethau rhwng awdurdodau lleol Cymru o ran niferoedd y plant a oedd yn derbyn gofal dros gyfnod o chwe blynedd.
Yn ddiweddar mae ymchwilwyr wedi cychwyn edrych ar y berthynas rhwng tlodi a chyfraddau o ddigwyddiadau fel plant yn mynd mewn i ofal neu’n cael eu rhoi ar y gofrestr amddiffyn plant. Mae’r briff hwn gan Paul Bywaters a’i gydweithwyr yn crynhoi canfyddiadau Cymru o gymharu â gweddill y DU: Identifying and understanding Inequalities in Child Welfare Intervention rates.
Yma mae Johnathon Scourfield yn ymchwilio i’r cwestiwn a yw systemau llesiant plant ac amddiffyn plant yn adlewyrchu, yn lleihau neu’n atgyfnerthu anghydraddoldebau cymdeithasol sy’n effeithio ar blant a theuluoedd.
Esiamplau penodol a data o Gymru
Tan yn ddiweddar, ychydig iawn o waith ymchwil a wnaed yng Nghymru am y nifer o blant sy’n derbyn gofal neu sy’n ceisio egluro’r gwahaniaethau rhwng awdurdodau lleol o ran y cyfraddau o blant sy’n derbyn gofal. Ymhlith y cyntaf oedd adroddiad Cordis Bright yn 2013 a gomisiynwyd gan Benaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan, Research on differences in the looked after children population.
Adeiladodd fy ymchwil PhD Looked-after children in Wales: An analysis of the backgrounds of children entering public care ar yr astudiaeth Cordis Bright a defnyddiwyd data gweinyddol ar tua 15,000 o blant a oedd wedi ‘derbyn gofal’ ar ryw bwynt rhwng Ebrill 2008 a Mawrth 2014.
Y gwaith diweddaraf i edrych ar niferoedd y plant mewn gofal yng Nghymru yw’r adroddiad yma o 2019 gan y Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru: Dadansoddiad o’r Ffactorau sy’n Cyfrannu at y Cyfraddau Uchel o Ofal yng Nghymru.
Mae Care Crisis Review Factors yn adroddiad defnyddiol o 2018 gan Grŵp Hawliau Teulu o’r ffactorau sydd wedi cyfrannu at gynnydd yn Lloegr a Chymru.
Cymharu cyfraddau yng Nghymru a gwledydd eraill y DU
Roedd Prosiect Anghydraddoldebau Llesiant Plant a ariannwyd gan Sefydliad Nuffield yn cymharu cyfraddau ymyrryd y pedair gwlad, yn cynnwys lleoli plant mewn gofal. Mae'r adroddiad Identifying and Understanding Inequalities in Child Welfare Intervention Rates: Comparative studies in four UK countries yn cynnig crynodeb o’r astudiaeth gyffredinol.
Felly, beth allwn ni ei wneud am y peth?
Mae’r ddolen yn mynd â chi i waith a wneir gan Beth sy’n Gweithio i’r Ganolfan Gofal Cymdeithasol Plant ar dystiolaeth gyfredol ynghylch ffyrdd o leihau niferoedd plant mewn gofal yn ddiogel.
Mewn blog, mae Andy Bilson yn trafod effaith y dulliau unigol cyfredol o amddiffyn plant, gan ddadlau eu bod yn canolbwyntio’n ormodol ar gamau gweithredu rhieni heb ystyried effaith grymoedd strwythurol yn briodol - tlodi ac anghydraddoldeb cynyddol.
Yn y podlediad gan BASW, mae’r Athro Brigid Featherstone yn trafod yr angen am ‘fodel cymdeithasol o amddiffyn plant’.
Ymateb i’r ffocws sy’n ail-ymddangos ar rôl tlodi yw datblygu fframwaith gwrthdlodi ar gyfer gwaith cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon.
Os oes gennych chi ddiddordeb darllen mwy am y berthynas rhwng cam-drin plant ac esgeulustod a thlodi mae adolygiad gan Sefydliad Joseph Rowntree ar y berthynas rhwng tlodi, cam-drin plant ac esgeulustod ar yn rhywle da i gychwyn.
Yw mynd i'r afael â thlodi bellach ddim yn 'fusnes craidd' i weithwyr cymdeithasol erthygl gan yr Athro Paul Bywaters.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.