Jump to content
Sioe deithiol cymorth i gyflogwyr
Digwyddiad

Sioe deithiol cymorth i gyflogwyr

Dyddiad
16 Medi 2025, 9.30am i 3pm
Lleoliad
Canolfan Christchurch, Heol Malpas, Casnewydd NP20 5PP
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae'r sesiwn yma ar gyfer cyflogwyr gweithwyr cofrestredig gofal cymdeithasol i oedolion, gan gynnwys Unigolion Cyfrifol a rheolwyr cofrestredig.

Cynnwys y sesiwn

Dewch i glywed am y gwasanaethau, cymorth ac adnoddau sydd ar gael i chi gan gynnwys:

  • ein ‘cynnig i gyflogwyr’ a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gofal Cymdeithasol Cymru
  • gwrth-hiliaeth ym maes gofal cymdeithasol gyda’r Athro Charlotte Williams OBE, FLSW, sy’n cael ei chydnabod yn eang am ei chyfraniadau at ddiwygio addysgol a diwylliannol yng Nghymru
  • modiwlau e-ddysgu am wrth-hiliaeth a HIV. Byddwn ni'n tynnu sylw at rai o’r adnoddau sydd gennym i helpu cyflogwyr i fod yn wrth-wahaniaethol
  • cefnogi’r Gymraeg yn eich gweithle. Rydyn ni wedi datblygu amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i ddysgu mwy am bwysigrwydd y Gymraeg a’i diwylliant, gweithio’n ddwyieithog, a gwneud y Cynnig Rhagweithiol
  • 'Mae eich llesiant yn bwysig' - Caniatâd i roi eich hun yn flaenoriaeth. Byddwn ni'n cyflwyno'r syniad o roi ein hunain yn flaenoriaeth fel y gallwn fod yn effeithiol yn ein rolau gwaith. Bydd gwybodaeth am sesiynau sy'n cael eu cynnig gennym a manylion cyswllt am gymorth sydd ar gael i bobl sy'n gweithio yn y maes gofal cymdeithasol
  • bydd ein tîm cymwysterau a safonau yn rhoi cyflwyniad i chi yn sôn am gefnogaeth sydd ar gael ynghylch cymwysterau ac ymsefydlu (AWIF).

Bydd cyfle hefyd i barhau i sgwrsio am y pynciau uchod ag arbenigwyr a staff eraill, i archwilio sut gallwch chi ddefnyddio’r cymorth a’r adnoddau yn eich sefydliad.

Bydd lluniaeth ar gael.