Jump to content
Sesiynau gwybodaeth adnewyddu cofrestru ar gyfer cyflogwyr
Digwyddiad

Sesiynau gwybodaeth adnewyddu cofrestru ar gyfer cyflogwyr

Dyddiad
11 Medi 2025 i 1 Hydref 2025, 10am i 11am
Lleoliad
Arlein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

I bwy mae'r sesiynau gwybodaeth yma:

Rheolwyr gofal cymdeithasol, Unigolion Cyfrifol ac unrhyw un arall sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a allai gymeradwyo adnewyddu staff.

Yn ystod y sesiwn hon byddwn yn trafod:

  • beth sydd angen i staff ei wneud i baratoi ar gyfer adnewyddu
  • sut i gyflwyno adnewyddiad
  • diweddariadau i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
  • gofynion hyfforddi (cydymffurfiaeth)
  • rôl y cymeradwywr a'r llofnodwr
  • diweddariadau i 'Fy Sefydliad' ar GCCarlein
  • beth i'w wneud os na allwch chi fodloni'r gofynion adnewyddu
  • dod oddi ar y Gofrestr
  • sut i ailymuno â'r Gofrestr.

Ni fyddwn ni'n gallu trafod adnewyddiadau unigol, ond byddwn ni'n rhoi gwybod i chi sut i gysylltu os hoffech chi gael mwy o gymorth.

Pryd?

Ymunwch â un o'n sesiynau ar:

  • 11 Medi 10-11am
  • 15 Medi 2-3pm
  • 23 Medi 10-11am
  • 1 Hydref 2-3pm