Mae’r sesiwn anffurfiol hon yn gyfle i chi ofyn un o’n swyddogion cymwysterau a safonau unrhyw gwestiynau am gymwysterau Gofal Dysgu a Datblygiad Plant.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon
Mae’r sesiwn hon ar gyfer ymarferwyr, arweinwyr a rheolwyr sy’n gweithio yn y sector gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.
Cynnwys y sesiwn
Yn y sesiwn hon, bydd ein swyddog cymwysterau a safonau yn ateb eich cwestiynau am:
- gymwysterau Gofal Dysgu a Datblygiad Plant
- y Fframwaith sefydlu Cymru gyfan
- y fframwaith cymwysterau gofal plant a’r blynyddoedd cynnar.