Bydd y sesiwn hon yn dod â phobl at ei gilydd i rannu gwybodaeth, syniadau ac ymarferion er mwyn cefnogi llesiant yn y gwaith.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon
Mae’r sesiwn hon ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar sydd â diddordeb mewn cefnogi llesiant yn y gwaith.
Cynnwys y sesiwn
Mae’r sesiwn hon yn gyfle gwych i:
- cysylltu â phobl o’r un anian â chi
- darganfod gwybodaeth ac adnoddau i’ch helpu i gefnogi llesiant yn y gwaith
- dysgu am ein cymuned ymarfer llesiant.