Mae'r sesiwn hon yn gyfle i ddysgu mwy am broses addasrwydd i ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru.
Ar gyfer pwy mae'r sesiwn hon
- rheolwyr gofal cymdeithasol
- Unigolion Cyfrifol
- ac unrhyw un arall sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a all wneud atgyfeiriadau i’n tîm addasrwydd i ymarfer.
Cynnwys y sesiwn
- gwahanol fathau o amhariadau ac enghreifftiau o amhariadau posibl ar ymarfer gweithiwr
- y Codau Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol
- pam y dylid gyfeirio atom
- sut i godi pryder am unigolyn a chyfeirio i’r gwasanaeth
- pryd i gyfeirio
- beth i'w gyfeirio a ddim cyfeirio
- y broses ymchwilio
- y cymorth sydd ar gael i weithwyr, tystion a’r bobl sy’n codi pryder gyda ni.
Ni allwn drafod unrhyw achosion cyfredol nac unrhyw bryderon penodol sydd gennych. Ond byddwn yn rhannu manylion cyswllt y tîm addasrwydd i ymarfer am gymorth pellach.
Bydd mynychu’r sesiwn hon yn cyfri tuag at awr o’ch datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) os ydych chi wedi cofrestru â ni.