Jump to content
Sesiwn hyfforddi rheolwyr: trosolwg o gymwysterau blynyddoedd cynnar yng Nghymru
Digwyddiad

Sesiwn hyfforddi rheolwyr: trosolwg o gymwysterau blynyddoedd cynnar yng Nghymru

Dyddiad
28 Chwefror 2024, 10am i 11.10am
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Gall y cymwysterau yng Nghymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant fod yn ddryslyd ac yn gymhleth.

Wrth i'r sector wynebu heriau recriwtio, mae deall pa gymwysterau a dderbynnir yn bwysicach nag erioed.

Yn y sesiwn hon, cewch:

  • drosolwg o’r cymwysterau Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (GCDDP) newydd
  • gyfle i ddysgu am y cysylltiadau â'r GCDDP a fframwaith sefydlu Cymru gyfan
  • gyfle i ddysgu am y fframwaith cymhwyster a pham mae rhai cymwysterau'n cael eu derbyn ac eraill ddim.