Jump to content
Sesiwn hyfforddi rheolwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant
Digwyddiad

Sesiwn hyfforddi rheolwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant

Dyddiad
22 Ionawr 2025, 1.30pm i 2.40pm
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Yn y sesiwn hon, bydd staff o Feithrinfa Chuckles, yng Nghasnewydd, yn rhannu eu hymarferion llesiant. Mae gweithredoedd a strategaethau Meithrinfa Chuckles wedi helpu creu tîm effeithiol a hapus.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer rheolwyr sy’n gweithio ym maes y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwn yn:

  • dysgu am rôl yr arweinydd mewn creu diwylliant positif yn y gwaith
  • clywed am ddull yr arweinyddiaeth wrth ymdrin â llesiant ym Meithrinfa Chuckles a pham mae’n gweithio
  • clywed am dipiau ymarferol i weithredu ymarferion llesiant yn eich lleoliad
  • deall yr effaith mae’r ymarferion hyn yn cael ar blant yn eich lleoliad.