Jump to content
Sesiwn gwybodaeth: cymwysterau Lefel 2 a 3 Gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
Digwyddiad

Sesiwn gwybodaeth: cymwysterau Lefel 2 a 3 Gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant

Dyddiad
19 Mehefin 2024 i 19 Chwefror 2025, 10am i 11am
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni'n cynnal sesiwn gwybodaeth am y cymwysterau Lefel 2 a 3 Gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant sydd euhangen arnoch chi i weithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.

I bwy mae'r sesiwn hon

Mae’r sesiwn hon ar gyfer pobl sydd am gefnogi eu staff blynyddoedd cynnar a gofal plant i ennill sgiliau newydd trwy dysgu yn y gweithle.

Mae’r sesiynau’n agored i:

  • arweinwyr
  • mentoriaid
  • dirprwyon
  • rheolwyr
  • cyflogwyr.

cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwn yn:

  • esbonio mae mae'r cymwysterau'n bodoli
  • esbonio rhannau craidd ac ymarferol y gywysterau, a sut maen nhw’n cael eu darparu a’u hasesu
  • esbonio’r cymwysterau sydd eu hangen arnoch chi i weithio yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant, a sut maen nhw'n ffitio yn y fframwaith.

Dyddiadau

  • 19 Mehefin 2024
  • 24 Gorffennaf 2024
  • 24 Hydref 2024
  • 19 Chwefror 2025