Jump to content
Sesiwn gwybodaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant: ‘Fframwaith sefydlu Cymru gyfan’ (AWIF)
Digwyddiad

Sesiwn gwybodaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant: ‘Fframwaith sefydlu Cymru gyfan’ (AWIF)

Dyddiad
12 Mehefin 2024 i 15 Ionawr 2025, 10am i 11am
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Yn y sesiwn hon, byddwn yn:

  • trafod prif rannau'r ‘Fframwaith sefydlu Cymru gyfan’ (AWIF), a pham mae'n bwysig ar gyfer lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant
  • esbonio sut i gwblhau'r AWIF, cam wrth gam
  • esbonio pwy ddylai gwneud yr AWIF
  • rhannu adnoddau i'ch helpu chi defnyddio'r AWIF.

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiadau

Mae'r sesiynau ar gyfer pobl sydd am defnyddio'r AWIF yn ei lleoliadau, gan gynnwys:

  • arweinwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant
  • mentoriaid
  • dirprwyon
  • rheolwyr
  • cyflogwyr.

Dyddiadau

Rydyn ni'n cynnal y sesiwn ar sawl dyddiad. Dim ond un sesiwn sydd angen i chi fynychu.

2024

  • 12 Mehefin, 6.30pm i 7.30pm
  • 21 Awst, 10am i 11am
  • 9 Hydref, 10am i 11am

2025

  • 15 Ionawr, 10am i 11am