Mae'r wobr Gofalu trwy'r Gymraeg yn wobr flynyddol sy'n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith y rhai sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl trwy ddarparu gofal a chymorth trwy gyrwng y Gymraeg.
Ymunwch â ni am 11.00am ar ddydd Iau, 7 Awst wrth i ni gyhoeddi'r enillydd mewn seremoni wobrwyo ym mhabell y Llywodraeth yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Rydyn ni'n gobeithio y gallwch ymuno â ni i ddathlu’r enillydd a’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.