Jump to content
Gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2025

Dysgwch fwy am y wobr sy’n dathlu’r rheini sy’n darparu gofal a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg a sut i enwebu gweithiwr.

Beth yw’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg?

Mae’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg yn wobr flynyddol sy’n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith y rhai sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl trwy ddarparu gofal a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r wobr yn cydnabod gwaith pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yn y sector cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chydweithredol yng Nghymru.

Y rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y wobr Gofalu trwy'r Gymraeg 2025

Bydd seremoni wobrwyo'r wobr Gofalu trwy'r Gymraeg yn cael ei gynnal yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ar 7 Awst 2025.

Mae chwech gweithiwr o bob rhan o’r sectorau gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar wedi’u dewis i gyrraedd rownd derfynol y wobr Gofalu trwy'r Gymraeg.


Dafydd Beatie, gweithiwr cymdeithasol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Conwy

Cafodd Dafydd ei enwebu gan Paula Shoosmith, ei reolwr llinell yn Nhîm Pobl Ddiamddiffyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Mae'r Tîm Pobl Ddiamddiffyn yn gweithio gyda phobl nad yw eu hanghenion yn cyd-fynd â gwasanaethau prif ffrwd ond sydd angen cymorth.

Yng nghymuned wledig Conwy, mae Dafydd yn aml wedi darganfod bod diffyg cefnogaeth drwy’r Gymraeg yn arwain siaradwyr Cymraeg i deimlo'n ynysig ac yn llai tebygol o ymgysylltu â'r cymorth sydd ar gael.

Mae Dafydd yn gwybod bod iaith a chysylltiad diwylliannol yn bwerus ar gyfer adeiladu perthnasoedd ystyrlon. Trwy ddechrau sgyrsiau yn Gymraeg bob amser gyda pobl sy’n newydd at dderbyn gofal a chymorth, mae Dafydd yn dileu'r rhwystr o gael mynediad at gymorth drwy’r Gymraeg oherwydd nid oes rhaid iddyn nhw ofyn.

Mae hyn yn golygu bod pobl yn fwy tebygol o ymgysylltu â'r gwasanaeth pan fydd cymorth yn cael ei gynnig. Mae dull Dafydd wedi ei helpu i adeiladu perthynas â phobl sydd wedi bod yn anfodlon defnyddio gwasanaethau yn y gorffennol.

Os nad yw siaradwr Cymraeg yn gallu byw'n annibynnol ac mae rhaid iddyn nhw fynd i leoliad, mae Dafydd yn gweithio gyda gwasanaethau cymunedol ac ysbytai i wneud yn siŵr y bydden nhw’n cael eu cefnogi yn eu hiaith eu hunain. Mae hyn yn cael effaith enfawr ar bobl sy'n byw gyd chyflyrau fel a dementia a phobl sydd angen gofal iechyd meddwl.

I Dafydd, mae’r Gymraeg yn rhan bwysig o ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ei gymuned. Mae'n annog ei gydweithwyr i gymryd yr un agwedd, gan siarad yn Gymraeg gyda phawb, o siaradwyr rhugl i ddysgwyr.


Leah Davies, rheolwr cofrestredig, Mental Health Care UK Ltd, Sir Ddinbych

Cafodd Leah ei henwebu gan Daniel Holmes, aelod o'i thîm yn Mental Health Care UK Ltd.

Mae Leah yn rheolwr cofrestredig yn Elm, un o gartrefi preswyl Mental Health Care UK ar gyfer oedolion ag awtistiaeth, anableddau dysgu ac anghenion cymhleth.

Er bod llawer o drigolion Elm yn ddieiriau, mae llawer ohonyn nhw hefyd yn dod o gymunedau Cymraeg eu hiaith. Pan fyddan nhw’n cael gofal trwy’r Gymraeg, mae preswylwyr yn fwy ymgysylltiedig, yn gyfforddus ac yn gallu gwneud cysylltiadau emosiynol.

Mae Leah wedi gweithio i ddod â mwy o Gymraeg i Elm. Mae hi wedi gwneud yn siŵr bod yr holl ddogfennau ac arwyddion yn ddwyieithog, fel bod yr iaith yn weladwy yn y cartref.

Mae Leah hefyd wedi trefnu gwersi Cymraeg i staff ddi-Gymraeg. Mae'r fenter mor llwyddiannus, mae wedi cael ei ehangu ac mae lleoliadau eraill Mental Health Care UK yn yr ardal leol bellach yn cynnig gwersi i'w staff.

Mae Leah yn canolbwyntio ar adeiladu hyder ei staff yn eu sgiliau Cymraeg fel y gallan nhw gyfathrebu'n effeithiol â'r preswylwyr gan fod clywed eu hiaith gyntaf yn helpu i greu amgylchedd cyfarwydd a thawel iddyn nhw.

I Leah, mae gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn dechrau gyda gwneud yn siŵr bod staff yn hyderus ac yn gallu darparu'r cymorth sydd ei angen ar y preswylwyr.

Y tu allan i Elm, mae Leah yn hyrwyddo'r Gymraeg ar draws Mental Health Care UK. Mae hi'n cadeirio grŵp ffocws Cynnig Rhagweithiol y cwmni. Mae Leah yn rhannu ymarfer gorau ac yn helpu sicrhau gwasanaethau Cymraeg gweladwy a hygyrch. O dan ddylanwad Leah, mae gofal dwyieithog a chynhwysiant diwylliannol wedi dod yn agweddau pwysig ac integredig ar wasanaethau Mental Health Care UK.


Myfanwy Harman, rheolwr, Cylch Meithrin y Gurnos, Merthyr Tudful

Cafodd Myfanwy ei henwebu gan Megan Morris, sydd wedi gweithio gyda Myfanwy drwy ei rôl yng Nghlybiau Plant Cymru Kids' Clubs.

Sefydlodd Myfanwy Gylch Meithrin y Gurnos ym mis Ionawr 2023 i ddarparu gofal plant cyfrwng Cymraeg o ansawdd uchel ac i roi sylfaen gref yn y Gymraeg i blant lleol cyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol.

Mae'r cylch meithrin bellach wedi ehangu i gynnig gofal plant ar ôl ysgol i blant hyd at 12 oed. Mae Myfanwy yn cynnig cyfle pwysig i blant lleol ddefnyddio a chlywed y Gymraeg y tu allan i'r ysgol. O dan ofal Myfanwy, mae'r Gymraeg yn rhan o brofiad dyddiol pob plentyn.

Mewn cymuned gydag ychydig iawn o siaradwyr Cymraeg, mae Myfanwy yn deall bod angen i’r Gymraeg wreiddio yn nheuluoedd lleol er mwyn i’r iaith ffynnu.

Mae Myfanwy wedi gweithio i ddangos i rieni fod y Gymraeg i bawb ac yn fantais i'w plant.

Dywedodd un rhiant: "Mae Myfanwy yn rhoi cyfle i mi ymarfer siarad Cymraeg mewn amgylchedd diogel heb farnu na gorfod poeni am ddweud rhywbeth o'i le. Mae hi'n ein helpu ni i ddysgu geiriau newydd hefyd, nid yn unig trwy sgwrs ond trwy'r pethau mae fy merch yn dod adref gyda nhw gan Meithrin."

Mae pob aelod o'r gymuned, o oedolion i blant cyn-ysgol, yn ymwneud ag addysgu, dysgu a rhannu'r iaith. Mae Myfanwy yn newid agweddau ac yn rhoi mantais bwysig i blant.

Ond mae hi hefyd yn helpu rhieni i ailgysylltu â'u diwylliant trwy eu plant: "Rwy'n teimlo'n llawer mwy rhan o fy nghymuned wrth rannu’r diwylliant a'r dreftadaeth hon."


Rhiannon Faulkner, cyfarwyddwr, Meithrinfa Joio Day Nursery, Abertawe

Cafodd Rhiannon ei henwebu gan Megan Pocock-Tommason a Sian Jewell, sydd wedi gweithio gyda Rhiannon drwy eu rolau yng Nghlybiau Plant Cymru Kids' Clubs.

Rhiannon yw sylfaenydd Meithrinfa Joio, meithrinfa ddydd dwyieithog gyntaf Abertawe sydd wedi'i chofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mae'r amgylchedd cynhwysol a chroesawgar y mae Rhiannon wedi'i greu ym Meithrinfa Joio wedi arwain at alw mawr ymhlith teuluoedd sy'n siarad Cymraeg, yn ogystal â theuluoedd sy'n awyddus i'w plant ddechrau dysgu Cymraeg.

Mae Rhiannon yn angerddol am roi cyfle i blant lleol ddefnyddio, clywed a mwynhau'r Gymraeg bob dydd. Mae'r Gymraeg wedi'i hymgorffori yn arferion y feithrinfa, ei gweithgareddau a'i harddangosfeydd, ac mae'r holl gyfathrebu â rhieni yn ddwyieithog.

Mae Rhiannon wedi creu amgylchedd diwylliannol cyfoethog lle gall plant ffynnu yn y ddwy iaith. I Rhiannon, mae'r Gymraeg yn ymwneud â mwy na siarad yr iaith yn unig. Mae'n ymwneud â hunaniaeth, cyfleoedd ac adeiladu dyfodol dwyieithog cryfach i blant, teuluoedd a'r gymuned leol.

Yn 2024, enillodd Meithrinfa Joio wobr Iaith a Diwylliant Cymraeg Cyngor Abertawe.

Er mwyn cefnogi'r Gymraeg yn Meithrinfa Joio, mae Rhiannon wedi defnyddio cynllun Addewid Cymraeg Cwlwm, sy'n cefnogi ei staff i ddatblygu eu sgiliau iaith. Mae'r lleoliad bellach yn gweithio tuag at wobr aur y cynllun.

Mae ffocws Rhiannon ar adeiladu hyder ei staff yn eu sgiliau wedi cael effaith enfawr. Dyw’r Gymraeg ddim yn cael ei siarad yn unig yn y meithrinfa, mae'n rhan o brofiad dyddiol pob plentyn ac aelod o staff yn y feithrinfa.

Dywedodd un rhiant: "Dyma sut y dylai pob meithrinfa weithredu. Mae'n amlwg bod Rhiannon yn adeiladu cymuned, nid lleoliad gofal plant yn unig."


Shan Jones, gweithiwr cartref gofal, My Choice Healthcare, Sir Gâr

Enwebwyd Shan gan Sue Lanceley, ei rheolwr llinell yn My Choice Healthcare.

Mae Shan yn gweithio ar uned ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia mewn un o gartrefi preswyl My Choice Healthcare.

Pan fydd preswylydd newydd yn cyrraedd y cartref, mae Shan bob amser yn sicr o ddarganfod os ydyn nhw'n siaradwr Cymraeg. Mae hi wedi dysgu bod preswylwyr bob amser yn ymateb yn fwy cadarnhaol i ofal a chymorth pan mae hi’n siarad â nhw yn eu hiaith gyntaf.

Os yw preswylydd sy'n siarad Cymraeg yn drysu neu'n cynhyrfu, mae Shan yn siarad â nhw yn Gymraeg. Mae clywed eu mamiaith gyfarwydd yn helpu preswylwyr i deimlo'n ddiogel a fel eu bod yn cael eu deall. Mae tosturi a gallu Shan i ddeall pwysigrwydd gofalu trwy’r Gymraeg yn cael effaith glir ar y bobl y mae'n eu cefnogi.

Mae Shan yn gweld Cymraeg nid yn unig fel dull cyfathrebu, ond fel ffordd o ddarparu cysur, urddas a chysylltiad i breswylwyr. Mae hi'n cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan aelodau teulu y preswylwyr, sy'n gallu gweld yr effaith y mae hi'n ei chael.

Mae'r Gymraeg yn rhan allweddol o agwedd Shan at ei gwaith o ganolbwyntio ar y unigolyn. Mae ei sgiliau Cymraeg yn offeryn i dawelu a lleddfu lle mae dulliau eraill yn methu.

Mae teuluoedd y preswylwyr wedi mynegi eu gwerthfawrogiad am gynhesrwydd Shan a'r sicrwydd y mae hi'n ei roi i'w hanwyliaid. Trwy ddarparu gofal trwy’r Gymraeg, mae Shan yn cynnal cysylltiad pob preswylydd â'u hunaniaeth ddiwylliannol.


Sharon Parry, rheolwr cartref preswyl i blant, Keys Group, Wrecsam

Cafodd Sharon ei henwebu gan Tracey Evans, sy'n gweithio gyda Sharon yn un o gartrefi preswyl Keys Group.

Mae Sharon bob amser yn sicrhau bod yr iaith a'r diwylliant Cymraeg i'w gweld yn y cartref y mae'n ei reoli. Mae hi'n dathlu dyddiadau pwysig yng nghalendr Cymru fel Dydd Gŵyl Dewi a Dydd Santes Dwynwen ac yn cynnig bwydydd traddodiadol Cymreig i'r plant y mae'n gofalu amdanynt.

Mae llawer o bobl ifanc mewn gofal yn cael eu gosod ymhell o'u cymunedau lleol. Gall hyn fod yn ynysig a'i gwneud hi'n anoddach i bobl ifanc deimlo'n sefydlog ac yn ddiogel yn eu lleoliadau.

I siaradwyr Cymraeg ifanc, mae’r gallu i barhau i ddathlu eu diwylliant a defnyddio eu mamiaith yn eu bywyd bob dydd yn medru cadarnhau eu hymdeimlad o hunaniaeth a'u helpu i deimlo'n ddiogel a fel eu bod yn cael eu cydnabod.

Mae awdurdodau lleol yn awyddus i ddefnyddio sgiliau Cymraeg Sharon a'i gwybodaeth ddiwylliannol oherwydd y budd i'r bobl ifanc y mae'n gofalu amdanynt.

Mae Sharon hefyd yn hyrwyddo ac yn cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg ymhlith staff ac yng ngweithgareddau dyddiol y cartref preswyl. Mae hi'n darparu llawlyfr Cymraeg i bobl ifanc sy'n newydd i'r lleoliad, yn ymateb i negeseuon e-bost a llythyrau yn Gymraeg pan fo angen ac yn prawfddarllen dogfennau Cymraeg.

Os yw person ifanc sy'n siarad Cymraeg yn cyrraedd un o gartrefi preswyl eraill y Keys Group, mae Sharon yn cefnogi'r staff yno i ddarparu Cynnig Rhagweithiol ac yn gwneud yn siŵr bod anghenion y person ifanc yn cael eu diwallu.

Cyhoeddi'r enillydd

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam am 11am, ddydd Iau, 7 Awst 2025.