Jump to content
Sesiwn hwb addysgwr ymarfer: sut i gefnogi adfyfyrio a dadansoddi mewn ymarfer
Digwyddiad

Sesiwn hwb addysgwr ymarfer: sut i gefnogi adfyfyrio a dadansoddi mewn ymarfer

Dyddiad
14 Ionawr 2025, 9.30am i 12.30pm
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru a Siobhan Maclean

Mae Siobhan Maclean wedi bod yn weithiwr cymdeithasol am 33 mlynedd. Fel gweithiwr cymdeithasol annibynnol, mae gwaith Siobhan yn cynnwys darparu hyfforddiant, datblygu adnoddau dysgu ymarfer a gwaith ymghynghorol.

Mae Siobhan hefyd wedi ysgrifennu’n eang ar theori gwaith cymdeithasol ac adfyfyrdod beirniadol.

Mae’r sesiwn hon yn gyfle i chi ddysgu sut mae cefnogi datblygiad ymarfer adfyfyriol. Byddwch yn cwrdd ag addysgwyr ymarfer eraill ac yn rhannu gwybodaeth a phrofiadau am y pethau sy’n bwysig i chi yn eich rôl.

Os ydych yn gofrestredig gyda ni, bydd y sesiwn hon yn cyfrannu at eich datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).

Mae’r sesiwn hon ar gyfer addysgwyr ymarfer ac unrhyw un sy’n cwblhau’r cwrs Galluogi Dysgu Ymarfer.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwch yn dysgu am y fframwaith Beth? Sut? Pam? a sut gallwch ei weithredu mewn ymarfer adfyfyriol.

Byddwch yn dysgu am:

  • camau adfyfyrio
  • defnyddio dadansoddi mewn ymarfer
  • modeli o adfyfyrio a’u prosesau gwahanol
  • sut i ddefnyddio cymhlethdod a dadansoddi
  • eich cyfrifoldebau yn natblygiad adfyfyrio a dadansoddi.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch iwqueries@gofalcymdeithasol.cymru