Digwyddiad Wythnos Llesiant 2025.
Yn y sesiwn hon, byddwn yn rhannu’r themâu llesiant a godwyd yn ein harolwg gweithlu a sut y gallwch chi roi’r cymorth cywir i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gofal plant blynyddoedd cynnar a chwarae gyda’u llesiant.
Cynnwys y sesiwn
Bydd Cymru Iach ar Waith yn ymuno â ni i siarad:
- ei chynnig digidol, sy'n gweithio i wella iechyd yn y gweithle ac atal salwch o fewn sefydliadau yng Nghymru
- pam dylai cyflogwyr cefnogi gweithwyr gyda chyflyrau hirdymor, fel cyflyrau cyhyrysgerbydol (MSKs).
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer unrhyw un sydd eisiau deall llesiant yn well a sut i gefnogi eu hunain ac eraill, gan gynnwys:
- pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae
- rheolwyr ac arweinwyr tîm.
Pwy fydd yn siarad neu cyflwyno?
Pauline Mould (Cynghorydd Iechyd yn y Gweithle) o Iechyd Cyhoeddus Cymru - Cymru Iach ar Waith.