Digwyddiad Wythnos Llesiant 2025.
Sut byddai digwyddiad tyngedfennol yn effeithio ar lesiant eich tîm? A fyddech chi'n gwybod sut i'w cefnogi i wella?
Ym mis Gorffennaf 2021, profodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr farwolaeth plentyn proffil uchel a arweiniodd at archwiliad sylweddol gan y cyfryngau a phartneriaid rheoleiddio.
Dengys tystiolaeth y gall awdurdodau lleol sy’n mynd trwy drasiedïau fel hyn ddisgwyl gweld lefel ddigynsail o alw am o leiaf ddwy flynedd wedyn.
Cynnwys y sesiwn
Yn y sesiwn hon, byddwn yn clywed:
- sut wnaeth yr amseriad y digwyddiad effeithio ar wytnwch a sefydlogrwydd y tîm
- pam a sut y canolbwyntiodd y tîm ar lesiant, recriwtio a chadw er mwyn helpu eu gweithlu i ymateb i’r digwyddiad a delio â’r canlyniadau
- yr hyn a ddysgodd y tîm o'r profiad
- pa effaith a dysgu a ddaeth o'r ffordd hon o weithio.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon
Mae’r sesiwn hon ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu sut mae gweithlu wedi cael ei gefnogi ar ôl digwyddiad tyngedfennol a heriau sylweddol eraill.