Jump to content
Anogaeth arloesedd ar gyfer rheolwyr dysgu: cefnogi gweithwyr i gyflawni cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth mewn iechyd a gofal cymdeithasol
Digwyddiad

Anogaeth arloesedd ar gyfer rheolwyr dysgu: cefnogi gweithwyr i gyflawni cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Dyddiad
23 Ionawr 2025 i 4 Chwefror 2025, 10.30am i 12.30pm
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r sesiwn hon yn gyfle i ddysgu mwy am anogaeth fel dull dysgu. Byddwch yn dysgu sut i gefnogi dysgwyr wrth iddyn nhw gwblhau eu cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth.

Nid yw’r sesiwn hon yn ffocysu ar asesiad ffurfiol y cymhwyster.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r sesiwn hon ar gyfer rheolwyr dysgu sy’n cefnogi neu a fydd yn cefnogi dysgwyr wrth iddyn nhw gwblhau eu cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth. Gan gynnwys:

  • aseswyr
  • gwirwyr
  • tiwtoriaid
  • darlithwyr
  • rheolwyr canolfan.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych ar:

  • anogaeth fel dull dysgu
  • beth yw’r Damcaniaeth newid a sut i’w ddefnyddio
  • sut i gefnogi dysgwyr Lefel 4 wrth iddyn nhw gynllunio a datblygu eu prosiectau newid
  • sut i gael mynediad at gynnig anogaeth arloesedd Gofal Cymdeithasol Cymru.

Dyddiadau

  • 10.30am i 12.30pm, 23 Ionawr
  • 3pm i 5pm, 4 Chwefror.

Gall dau berson fynychu o bob sefydliad ar y mwyaf. Dim ond un sesiwn sydd angen i chi fynychu.