Jump to content
Cynhadledd cenedlaethol Gweithiwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP)
Digwyddiad

Cynhadledd cenedlaethol Gweithiwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP)

Dyddiad
23 Hydref 2025 i 4 Tachwedd 2025, 9.15am i 4pm
Lleoliad
23 Hydref, Gwesty’r Angel, Caerdydd a 4 Tachwedd, Venue Cymru, Llandudno
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Ble a phryd

  • 23 Hydref, Gwesty’r Angel, Caerdydd
  • 4 Tachwedd, Venue Cymru, Llandudno

Noder: bydd y ddau gynhadledd yn dilyn yr un rhaglen.

Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad hwn

Mae’r gynhadledd hon ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) o bob rhan o Gymru.

Dyma gyfle i gyfrannu at ddysgu a datblygu AMHPs, a bydd cyfle i rwydweithio hefyd. Mae’r gynhadledd yn dathlu gwaith AMHPs a chyfraniad allweddol ymarferwyr i lesiant y boblogaeth.

Beth fyddwn ni’n ei drafod

Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar brofiadau Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy, a'r heriau sy’n eu hwynebu. Mae ein siaradwyr gwadd yn cynnwys:

  • Rebecca Horton: AMHP profiadol ac arweinydd tîm a fydd yn rhannu ei barn hi am waith a chyfrifoldebau AMHPs yn 2025
  • Dr Alan Woodall: meddyg Adran 12 profiadol sydd â chefndir ym maes ymchwil ac ymarfer rheng flaen a fydd yn trafod ei brofiadau o waith AMHPs
  • Michael Brown: awdur blog ‘plismon iechyd meddwl’ a fydd yn trafod y dull ‘Gofal Cywir, Person Cywir’, materion cysylltiedig ag effeithiau posibl y polisi.

Bydd y sesiwn yn rhyngweithiol a bydd cyfle i ofyn cwestiynau hefyd.

Y rhaglen

Ein siaradwyr

Cofrestrwch nawr: 23 Hydref

Gwesty'r Angel, Caerdydd

Cofrestrwch nawr: 4 Tachwedd

Venue Cymru, Llandudno