Rebecca Horton, Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP)
Cymhwysodd Rebecca fel gweithiwr cymdeithasol yn 1999. Daeth yn Weithiwr Cymdeithasol Cymeradwy (ASW) yn 2003 ac mae wedi parhau i ymarfer fel AMHP ers hynny. Mae Rebecca wedi gweithio'n bennaf mewn gwasanaethau iechyd meddwl, timau iechyd meddwl cymunedol, a thimau triniaeth yn y cartref i ddatrys argyfwng, ond mae hi hefyd wedi gweithio mewn tîm dyletswydd argyfwng fel aelod sesiynol.
Mae Rebecca wedi bod yn uwch ymarferydd â chyfrifoldebau rheoli ac fe'i penodwyd yn ddiweddar yn rheolwr tîm ac yn arweinydd AMHP. Mae hi'n briod ac yn fam i ddau o bobl ifanc yn eu harddegau, ac mae hi wedi ymdopi â bywyd teuluol gan aros ar y rota AMHP.
Mae Rebecca wedi gweithio mewn ardaloedd gwledig a threfol ac mae'n deall y tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhyngddyn nhw.
Dr Alan Woodall, MBChB (Anrh), MPH, PhD, Dip Ther, MRCGP (Rhagoriaeth)
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o feddygon, nid oedd Alan erioed eisiau bod yn un. Ac yntau wedi'i fagu’n blentyn i chwarelwr yn Swydd Durham yn ystod streic 1984 i 1985, roedd yn disgwyl mai mynd i weithio yn y pwll glo neu ymuno â'r fyddin yn 15 oed fyddai ei hanes.
Mae Alan yn feddyg teulu profiadol ac mae wedi cymhwyso ers bron i 25 mlynedd. Mae'n feddyg teulu sy’n arweinydd clinigol gofal integredig ar gyfer ei sefydliad GIG. Mae'n darparu arbenigedd ynghylch rheoli cleifion sydd â salwch corfforol a meddyliol cyd-glefydol difrifol nad ydynt yn cyrraedd eu meddygon teulu. Ef hefyd yw’r clinigydd arweiniol Adran 12 ac mae'n gwasanaethu ar y rota seiciatreg gyntaf, a’r ail, ar gyfer asesiadau'r Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae Alan yn awyddus i sicrhau gwell gwaith tîm a chanlyniadau yng nghyswllt asesiadau'r Ddeddf Iechyd Meddwl i gleifion yng Nghymru.
Mae Alan yn Athro Anrhydeddus ac yn Uwch Ddarlithydd Clinigol mewn dwy brifysgol. Mae wedi cael £3m mewn grantiau ymchwil i archwilio niwed meddyginiaethol yn sgil cyffuriau gwrthseicotig mewn cleifion ag amlforbidrwydd, ac mae ganddo dros 40 o gyhoeddiadau. Mae Alan hefyd yn uwch ymchwilydd i farwolaethau mewn carchardai ar gyfer rheoleiddiwr gofal iechyd Cymru.
Michael Brown
Mae Michael yn ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Birmingham, sy'n ymchwilio i farwolaethau cysylltiedig ag iechyd meddwl ar ôl cyswllt â'r heddlu. Bu'n swyddog heddlu am 27 mlynedd, yn arbenigo mewn iechyd meddwl.
Ef oedd Cydlynydd Iechyd Meddwl Cenedlaethol y Coleg Plismona. Ysgrifennodd ganllawiau cenedlaethol ar gyfer y gwasanaeth ac roedd yn rhan o'r Adolygiad o'r Ddeddf Iechyd Meddwl.
Mae Michael wedi bod yn dyst arbenigol mewn nifer o gwestau uchel eu proffil yn y DU ac Awstralia, gan gynnwys digwyddiadau yn ymwneud ag ataliaeth a saethu angheuol gan yr heddlu. Mae hefyd wedi rhoi tystiolaeth mewn ymchwiliadau cenedlaethol mawr fel adolygiadau Adebowale ac Angiolini. Ef yw'r unig heddwas i gael Medal y Llywydd gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.