Jump to content
Shaun Anthony Mcgowan
Rôl cofrestredig
Gweithwir Gofal Cartref
Canlyniad
Gorchymyn Dileu
Lleoliad
Roedd hwn yn wrandawiad o bell drwy Zoom
Math o wrandawiad
Panel addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod pryderon diogelu difrifol ynghylch ymddwyn yn anonest gyda Defnyddwyr Gofal a Chymorth er budd ariannol, a brofwyd yn erbyn Shaun Anthony McGowan, gweithiwr gofal cartref.

Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Mr McGowan i ymarfer a gosododd orchymyn dileu sy’n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru. Bydd enw Mr McGowan yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a’i roi ar y Rhestr o Bobl sy’n cael eu Dileu o’r Gofrestr.

Mae gan Mr McGowan yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.

Mae rhagor o wybodaeth am yr achos ar gael ar gais. Fodd bynnag, sylwch y gallai rhywfaint o wybodaeth gael ei golygu.

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru