Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod honiad o bryderon diogelu difrifol, gan gynnwys y defnydd o rym ac achosi anaf corfforol i ddefnyddiwr gofal a chymorth, wedi’i brofi yn erbyn Ms Hornby, gweithiwr gofal plant cofrestredig.
Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Ms Hornby i ymarfer a gosododd Orchymyn Dileu sy’n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru. Bydd enw Ms Hornby yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a’i roi ar y Rhestr o Bobl sy’n cael eu Dileu o’r Gofrestr.
Mae gan Ms Hornby yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.
Mae mwy o wybodaeth am yr achos ar gael ar gais, fodd bynnag noder y gallai peth gwybodaeth gael ei golygu.
----------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru