Jump to content
Lakeisha Evans
Rôl cofrestredig
Gweithiwr gofal catref
Canlyniad
Gorchymyn Dileu
Lleoliad
Roedd hwn yn wrandawiad o bell drwy Zoom
Math o wrandawiad
Panel addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod yr euogfarn ganlynol yn erbyn Lakeisha Evans, gweithiwr gofal cartref wedi’i phrofi.

Ar 24 Hydref 2022 yn Llys y Goron Caernarfon ar ei chyfaddefiad ei hun, cafwyd Lakeisha Evans yn euog ar dditiad o gymryd rhan yng ngweithgareddau troseddol grŵp troseddau trefniadol yn groes i adran 45 o Ddeddf Troseddau Difrifol 2015.

Canfu’r Panel fod addasrwydd presennol Lakeisha Evans i ymarfer wedi’i amharu a’i bod wedi gosod Gorchymyn Dileu sy’n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol wedi’i rheoleiddio yng Nghymru. Bydd enw Lakeish Evans yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a'i roi ar y Rhestr o Bobl sy'n cael eu Dileu o'r Gofrestr.

Mae gan Lakeisha Evans yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.

Mae mwy o wybodaeth am yr achos ar gael ar gais, fodd bynnag noder y gallai peth gwybodaeth gael ei golygu.

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru

Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru