Mae Panel Ffitrwydd i Ymarfer wedi canfod honiadau o brofi bod Kath Roath, gweithiwr gofal cartref cofrestredig, wedi trafod ei sefyllfa ariannol bersonol ac wedi derbyn taliadau rheolaidd am ddarparu gofal personol, rhoddion fel bwyd/diod a dillad a benthyciad o swm amhenodol o arian gan ddefnyddiwr gofal a chymorth. Er i'r Panel ganfod bod y ffeithiau ynglŷn â'r honiadau wedi profi, fe wnaethon nhw benderfynu nad oedd nam ar ffitrwydd Kath Roath i ymarfer ar hyn o bryd. Fodd bynnag, ar sail eu canfyddiadau, canfu'r panel fod ei hymddygiad yn torri'r Cod Ymarfer Proffesiynol a chyhoeddi Rhybudd am dair blynedd mewn perthynas ag ymddygiad a pherfformiad yn y dyfodol. Mae gan Kath Mary Roath yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod. Rhesymau panel ar gael ar gai
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru