Jump to content
Jonathan Hill-Dunt
Rôl cofrestredig
Gweithiwr gofal catref
Canlyniad
Gorchymyn Dileu
Lleoliad
Roedd hwn yn wrandawiad o bell drwy Zoom
Cyflogwr
Yn flaenorol Cartrefi Cymru
Math o wrandawiad
Panel addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod honiad o bryderon diogelu difrifol, gan gynnwys gadael defnyddiwr gofal a chymorth heb oruchwyliaeth a heb gefnogaeth mewn car am 2 awr, wedi’i brofi yn erbyn Mr Hill-Dunt, gweithiwr gofal cartref cofrestredig.

Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Mr Hill-Dunt i ymarfer a gosododd Orchymyn Dileu sy’n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru. Bydd enw Mr Hill-Dunt yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a’i roi ar y Rhestr o Bobl sy’n cael eu Dileu o’r Gofrestr.

Mae gan Mr Hill-Dunt yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.

Mae mwy o wybodaeth am yr achos ar gael ar gais, fodd bynnag noder y gallai peth gwybodaeth gael ei golygu.

----------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru

Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru

Crynodeb o honiadau

Bydd y gwrandawiad hwn yn ystyried pryderon diogelu difrifol a godwyd mewn perthynas ag ymddygiad Jonathan Hill-Dunt.