Jump to content
David John Thomas
Rôl cofrestredig
Gweithiwr gofal catref
Canlyniad
Gorchymyn Dileu
Lleoliad
Roedd hwn yn wrandawiad o bell drwy Zoom
Cyflogwr
Yn flaenorol The Care Collective
Math o wrandawiad
Panel addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod David John Thomas, gweithiwr gofal cartref wedi’i euogfarnu am fod â delweddau anweddus o blant a delwedd bornograffig eithafol yn ei feddiant.

Cafodd David John Thomas, yn Llys y Goron Merthyr, ddedfryd o garchar ohiriedig o 10-mis a’i wneud yn destun Gofyniad Gweithgarwch Adsefydlu a Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol am 10 mlynedd, a gorchmynnwyd iddo gofrestru gyda’r heddlu yn unol â’r Ddeddf Troseddau Rhywiol.

Canfu’r Panel fod addasrwydd presennol David John Thomas i ymarfer wedi’i amharu a’i fod wedi gosod Gorchymyn Dileu sy’n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru. Bydd enw David John Thomas yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a'i roi ar y Rhestr o Bobl sy'n cael eu Dileu o'r Gofrestr.

Mae gan David John Thomas yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.

Mae rhagor o wybodaeth am yr achos ar gael ar gais. Fodd bynnag, sylwch y gallai rhywfaint o wybodaeth gael ei golygu.

----------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru