Jump to content
Caitlin Sankey
Rôl cofrestredig
Gweithiwr gofal catref
Canlyniad
Gorchymyn Dileu
Lleoliad
Roedd hwn yn wrandawiad o bell drwy Zoom
Cyflogwr
Yn flaenorol Care Cymru
Math o wrandawiad
Panel addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod honiadau o esgeulustod ac anonestrwydd yn ymwneud â defnyddwyr gofal a chymorth gan gynnwys methiant i gwblhau tasgau a ffugio cofnodion a brofwyd yn erbyn Ms Sankey, gweithiwr gofal cartref cofrestredig.

Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Ms Sankey i ymarfer a gosododd Orchymyn Dileu sy’n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru. Bydd enw Ms Sankey yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a’i roi ar y Rhestr o Bobl sydd wedi’u Dileu o’r Gofrestr.

Mae gan Ms Sankey yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.

Mae mwy o wybodaeth am yr achos ar gael ar gais, fodd bynnag noder y gallai peth gwybodaeth gael ei golygu.

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru

Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru