Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Bydd hyn yn cynnwys rheolwyr. Disgwylir i'r hyfforddiant hwn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn eu paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.
Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd
Gweler y corff pennu safonau priodol:
- Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (CIPS) – mae'r Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi yn datblygu adnoddau a rhaglenni dysgu ar gyfer y rheini sy’n rheoli prynu a chyflenwi fel rhan o’u gwaith.
- Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) – CIPD yw corff datblygu proffesiynol ac AD mwyaf Ewrop.
- Skills CFA (y Cyngor Gweinyddu gynt) – mae Skills CFA yn darparu ac yn hyrwyddo gwybodaeth a sgiliau busnes. Ei nod yw sicrhau bod gweithwyr o bob math o sefydliadau yn meddu ar y sgiliau sy'n ofynnol i ragori a datblygu gydol eu gyrfa.
- e-skills – e-skills yw'r Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer Technoleg Gwybodaeth a Busnes. Mae’n gweithio ar ran cyflogwyr i ddatblygu'r feddalwedd, y gwasanaethau rhyngrwyd, y gemau cyfrifiadurol, y gwasanaethau TG a'r arbenigedd newid busnes sy’n angenrheidiol i ffynnu yn economi ddigidol fyd-eang y byd sydd ohoni.