Bydd y cyfarwyddwr cynorthwyol yn arwain ar faes gwaith cymdeithasol/gofal cymdeithasol, ac yn gyfrifol am gynllunio, datblygu a rheoli'r maes hwnnw. Mae’n bosibl y bydd hefyd yn dirprwyo ar ran y cyfarwyddwr.
Diweddariad olaf: 25 Gorffennaf 2022
Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd
Cymwysterau blaenorol
Cymhwyster mewn gwaith cymdeithasol, wedi’i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru
MSC OM5 (Rheolaeth Weithredol)
MSC SM5 (Rheolaeth Strategol)
NVQ 5 mewn Comisiynu, Caffael a Chontractio ar gyfer y Gwasanaethau Gofal
NVQ 4 mewn Rheoli (wedi’i asesu mewn lleoliad gofal cymdeithasol)
NVQ 4 mewn Gofal
Gofynion sefydlu
Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Bydd hyn yn cynnwys rheolwyr. Disgwylir i'r hyfforddiant hwn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn eu paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.