Y cyfarwyddwr sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol dros arwain a rheoli gwaith cymdeithasol a/neu ofal cymdeithasol mewn sefydliad, gan gynnwys cynllunio strategol, comisiynu gwasanaethau a chynllunio/datblygu gwasanaethau.
Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd
Nid oes cymwysterau gofal cymdeithasol penodol wedi'u nodi ar gyfer y rôl hon.
Mae disgwyl i gyfarwyddwyr fod â chryn ddealltwriaeth o ofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol statudol a’u perthynas â'r sefydliad ehangach (os yw’n berthnasol). Disgwylir iddynt reoli a darparu ar draws y sefydliad yn ogystal â rheoli newid, bod yn gyfrifol am eu gweithlu ac ymateb i bolisi, deddfwriaeth a sbardunau gwleidyddol. Mae arwain yn rhan allweddol o’r rôl hon.
Bydd profiadau penodol yn cael eu pennu gan bob sefydliad unigol yn ôl yr angen.