Mae deddfwriaeth neu ddeddfau a pholisïau cenedlaethol wedi datblygu dros amser i gefnogi hawliau pob dinesydd.
Cyflwyniad
Yn ogystal â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), mae rhai cyfreithiau allweddol eraill sy’n cefnogi hawliau pobl fel:
- y Ddeddf Cydraddoldeb
- y Ddeddf Hawliau Dynol;
- y Ddeddf Iechyd Meddwl
- y Ddeddf Galluedd Meddyliol
- Deddf yr Iaith Gymraeg.
Yn y ddogfen hon, ceir crynodeb o ystyr pob un o’r Deddfau hyn. Hefyd, mae confensiynau a chanllawiau cenedlaethol y dylech fod yn ymwybodol ohonynt:
Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun ar sail unrhyw un o’r nodweddion hyn:
- oed
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- priodas neu bartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil
- crefydd/cred
- rhywedd
- cyfeiriadedd rhywiol.
Cyfeirir at y rhain yn aml fel nodweddion gwarchodedig. Mae fersiwn hawdd ei darllen o'r Ddeddf Cydraddoldeb ar gael yma.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd yn darparu gwybodaeth am y Ddeddf Cydraddoldeb os hoffech ddysgu mwy.
Deddf Hawliau Dynol 1998
Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn nodi’r hawliau a’r rhyddid sylfaenol y mae gan bawb yn y DU hawl iddynt. Mae’r Ddeddf yn ymgorffori’r hawliau a nodir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR) yng nghyfraith ddomestig Prydain. Mae fersiwn hawdd ei darllen o'r Ddeddf Hawliau Dynol ar gael yma.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd yn darparu gwybodaeth am y Ddeddf Hawliau Dynol os hoffech ddysgu mwy.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Personau ag Anableddau
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Personau ag Anableddau yn gytundeb cyfreithiol rhyngwladol i amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol pobl anabl. Mae fersiwn hawdd ei darllen o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Personau ag Anableddau ar gael yma.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd yn darparu gwybodaeth am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Personau ag Anableddau os hoffech ddysgu mwy.
Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Personau Hŷn 1991
Mae Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Personau Hŷn 1991 yn cynnwys 18 egwyddor, y gellir eu grwpio o dan bum thema:
- annibyniaeth
- cyfranogiad
- gofal
- hunangyflawniad
Roedd llywodraethau’n cael eu hannog i’w hymgorffori yn eu rhaglenni cenedlaethol pryd bynnag y bo modd. Mae gwybodaeth am Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Personau Hŷn ar gael yma.
Datganiad hawliau pobl hŷn yng Nghymru (2014)
Mae’r Datganiad hawliau pobl hŷn yng Nghymru (2014) yn nodi hawliau pobl hŷn yng Nghymru. Mae gwybodaeth am y Datganiad ar gael yma.
Deddfwriaeth iechyd meddwl
Mae Deddf Iechyd Meddwl (1983, diwygiwyd 2007), Cod Ymarfer y Ddeddf Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru (2016) a Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) (2010) yn gosod dyletswyddau cyfreithiol ar fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol yng nghyswllt asesu a thrin problemau iechyd meddwl. Maent yn gwneud yn siŵr bod hawliau pobl yn cael eu cynnal pan fyddant yn defnyddio gwasanaethau.
I gael gwybodaeth am y Ddeddf Iechyd Meddwl, edrychwch ar yr wybodaeth hon gan Mind Cymru.
Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r Cod Ymarfer cysylltiedig wedi’u cynllunio i amddiffyn a rhoi grym yn ôl i bobl agored i niwed sydd efallai heb y galluedd i wneud penderfyniadau penodol, oherwydd cyflwr eu hiechyd meddwl. Mae fersiwn hawdd ei darllen o'r Ddeddf Galluedd Meddyliol ar gael yma.
Mae’r Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth hefyd yn rhoi gwybodaeth am y Ddeddf Galluedd Meddyliol os hoffech gael rhagor o wybodaeth.
Deddfwriaeth yr iaith Gymraeg
Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, Mesur yr Iaith Gymraeg (2011) a Mwy na Geiriau yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru. Maent hefyd yn cyflwyno safonau i egluro sut y disgwylir i sefydliadau wneud y canlynol:
- defnyddio’r Gymraeg
- cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
- ei gwneud yn haws i bobl ei defnyddio yn eu bywydau bob dydd.
Mae gwybodaeth am ddeddfwriaeth yr iaith Gymraeg ar gael yma.
Fframwaith Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2013) yw ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gryfhau gwasanaethau Cymraeg i bobl sy’n defnyddio iechyd a gofal cymdeithasol, a’u teuluoedd y mae salwch neu anabledd yn effeithio arnynt, neu effeithiau cyffuriau neu alcohol.
Cynnwys cysylltiedig
- Dulliau cadarnhaol o leihau arferion cyfyngol mewn gofal cymdeithasol
- Canllawiau ymarfer ar gyfer gweithwyr am ffiniau proffesiynol