Jump to content
Ein aelodau Bwrdd
  • Mick Giannasi

    Cadeirydd y Bwrdd, ymddeolodd Mick Giannasi o wasanaeth yr heddlu ym mis Ebrill 2011, ar ôl gyrfa lwyddiannus o dros 31 mlynedd. Derbyniodd Fedal Heddlu’r Frenhines am ei gyfraniad i blismona yn 2011. Ar ôl ymddeol o Wasanaeth yr Heddlu yn 2011, penodwyd Mick gan Lywodraeth Cymru i weithredu fel Comisiynydd ar gyfer Cyngor Ynys Môn. O fis Medi 2013 hyd fis Ebrill 2018, Mick oedd Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Cafodd ei anrhydeddu â CBE yn 2018 fel cydnabyddiaeth am ei gyfraniad at y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

  • Aaron Edwards

    Aaron yw Rheolwr Rhaglen Teleofal TEC Cymru. Cyn hynny, roedd Aaron yn gweithio â gwasanaeth teleofal Cyngor Caerdydd, lle’r oedd yn hwyluso’r ddarpariaeth larymau gofal cymdeithasol oedolion i ddinasyddion, gan eu helpu i gadw’u hannibyniaeth yn eu cartref.

    Cyn hyn roedd Aaron yn gadeirydd Rhwydwaith Gwella Dysgu Technoleg Gynorthwyol. Ac mae ar hyn o bryd yn aelod o’r Bwrdd Gwella Ansawdd ar gyfer y Gymdeithas Gwasanaethau Teleofal. Mae'n eiriolwr brwd dros ofal sy’n cael ei hwyluso gan dechnoleg.

    Mae Aaron yn falch o hyrwyddo potensial technoleg i wella diogelwch i bobl sydd angen cymorth ychwanegol, fel y gallan nhw gadw’u hannibyniaeth yn eu hamgylchedd bob dydd.

  • Abyd Quinn Aziz

    Mae Abyd yn Ddarllenydd mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae’n gweithio ers 20 mlynedd. Cyn hyn, roedd Abyd yn gweithio mewn gofal cymdeithasol plant, mewn iechyd meddwl, ac mewn gwaith cymdeithasol mewn derbyn ac asesu a chanolfannau teulu.

    Mae wedi cydlynu hyfforddiant mewn gofal plant ac amddiffyn plant, rheoli a datblygu. Ac roedd yn weithiwr cymdeithasol annibynnol am fwy na 25 mlynedd.

    Roedd Abyd yn gyfrifol am sefydlu’r prosiectau cynadledda grŵp teuluoedd cyntaf yn ne Cymru. Ac mae wedi cadeirio cynadleddau amddiffyn plant mewn awdurdodau lleol cyn mynd ymlaen i addysgu gwaith cymdeithasol cymhwyso ym Mhrifysgol Caerdydd.

    Mae Abyd yn aelod o bwyllgor BASW Cymru, yn un o ymddiriedolwyr Tros Gynnal Plant ac mae ar grŵp llywio Race Alliance Wales. Yn fwyaf diweddar, mae wedi bod yn aelod o Banel Arbenigwyr y Llywodraeth a oedd yn edrych ar y Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol ac mae’n rhan o weithgor Gwrth-hiliol Cymru.

    Mae diddordebau ymchwil Abyd yn cynnwys cynadledda grŵp teuluol a gwrth-hiliaeth, ac yn ddiweddar cyd-olygodd Social Work in Wales, a gafodd ei gyhoeddi fis Mehefin 2023. Mae Abyd yn Fwslim ‘Ismaili Dwyrain Affrica’, yn rhedwr ac yn mwynhau ffotograffiaeth, pêl droed a cherddoriaeth ryngwladol.

  • Einir Hinson

    Mae Einir yn weithiwr cymdethasol cymwysiedig. Mae hi wedi gweithio mewn rolau gwahanol ar draws gwasanaethau plant ac oedolion, gan gynnwys mewn arweinyddiaeth a rheolaeth.

    Mae Einir yn siaradwr Cymraeg.

  • Helen Mary Jones

    Mae gan Helen Mary Jones 40 mlynedd o brofiad o weithio ym maes gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys fel Aelod o’r Senedd, lle bu’n gadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc a’r Pwyllgor Diwylliant. Bu’n Gadeirydd Grwpiau Trawsbleidiol ar Blant a Phobl Ifanc, Plant sy’n Derbyn Gofal, a Hawliau Dynol. Gwasanaethodd fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Economi.

    Y tu allan i wleidyddiaeth mae wedi dal rolau sylweddol, gan gynnwys prif weithredwr elusen gwaith ieuenctid genedlaethol a Dirprwy Gyfarwyddwr y Comisiwn Cyfle Cyfartal. Fe’i penodwyd i’r Bwrdd Ymyrraeth Gweinidogol a anfonwyd i Gyngor Sir Penfro yn dilyn cyfres o fethiannau diogelu. Mae hi wedi cyflwyno ar bolisi cyhoeddus ym Mhrifysgolion Harvard, Huston ac Austin. Ym mis Medi 2021 cafodd ei hethol i Fwrdd Plant yng Nghymru, y corff ymbarél ar gyfer sefydliadau plant. Ar hyn o bryd mae'n gweithio fel ymgynghorydd polisi a materion cyhoeddus.

  • Kieran Harris

    Mae gan Kieran bron i 15 mlynedd o brofiad arweiniol mewn amrywiaeth o elusennau sy’n darparu gofal a chymorth yng Nghymru a ledled y DU. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Prif Weithredwr Mind Cwm Taf Morgannwg.

    Cyn hynny bu’n darparu cymorth datblygu polisi i Weinidogion Llywodraeth Cymru, yn arwain gweithgareddau marchnata a masnachol yn y sector chwaraeon ac yn cefnogi ystod eang o gwmnïau gyda chysylltiadau cyhoeddus a materion cyhoeddus.

  • Mark Roderick

    Cafodd Mark ddiagnosis o arthritis gwynegol pan oedd yn 11 mis oed, ac yn raddol mae wedi ymledu drwy ei gorff. Erbyn iddo gyrraedd wyth oed, roedd angen gofal llawn amser arno, a oedd yn cael ei ddarparu gan ei deulu, ac erbyn iddo fod yn 10 oed roedd yn defnyddio cadair olwyn. Ar ôl marwolaeth ei dad yn 2008, dechreuodd Mark gael gofal llawn amser gan asiantaeth allanol.

    Ers 2011, mae Mark wedi bod yn mynychu canolfan ddydd New Horizons, yr unig ganolfan ddydd yng Nghymru i bobl ag anableddau corfforol. Yn New Horizons, mae Mark wedi chwarae rhan flaenllaw mewn tri phrosiect llwyddiannus, ac mae’n awr yn aelod o banel cleientiaid newydd sy’n cynrychioli anghenion a dymuniadau cleientiaid mewn cyfarfodydd â rheolwyr y ganolfan ddydd a’r awdurdod lleol.

    Yn 2023, roedd Mark yn rhan o’r panel ‘Arbenigwyr drwy brofiad’ yn ein Cynadleddau dathlu gwaith cymdeithasol. Mae’n edrych ymlaen at, ac yn gobeithio, cynnig safbwyntiau gwahanol i’r Bwrdd ac at wneud gwahaniaeth positif er budd y gymuned genedlaethol ehangach.

  • Sarah Zahid

    Mae Sarah, sydd â’i gwreiddiau ethnig ym Mhacistan, wedi byw yng Nghonwy ers 20 mlynedd. Mae gan Sarah radd Baglor mewn Gwyddorau Meddygol, a gradd Meistr a oedd yn canolbwyntio ar Iechyd y Cyhoedd, o Brifysgol Manceinion, ac yn ddiweddar cwblhaodd Ddiploma Addysg Uwch mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Iechyd.

    Sarah yw Unigolyn Cyfrifol a rheolwr cofrestredig cartref nyrsio yng Nghonwy, ac mae ganddi brofiad uniongyrchol o ddarparu a rheoli gwasanaethau a reoleiddir, gan wneud yn siŵr bod pob unigolyn yn byw bywyd sy’n bwysig iddyn nhw.

    Mae gan Sarah rôl flaenllaw mewn hybu llesiant cymuned yr henoed yng Nghonwy ac mae’n credu’n gryf mewn gwella partneriaethau, arferion gorau comisiynu, a darparu gofal o safon uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae ei diddordebau y tu allan i’r gwaith yn cynnwys teithio, ffitrwydd ac adeiladu.

  • Trystan Pritchard

    Mae gan Trystan Pritchard brofiad ledled y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae’n Gyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau, Ymgysylltu a Chanfyddiad i Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Yn y gorffennol mae wedi bod mewn rolau uwch mewn Byrddau Iechyd, y trydydd sector a llywodraeth leol. Mae ei feysydd arbenigedd yn cynnwys ymgysylltu, rheoli strategol, arweinyddiaeth a hyfforddi.

    Mae Trystan yn aelod o Bwyllgor Cenedlaethol y Loteri yng Nghymru ac mae’n cadeirio Mantell Gwynedd, y cyngor gwirfoddoli sirol. Mae hefyd wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Pwyllgor Cyngor ar Bopeth Cymru.

    Mae’n siaradwr Cymraeg rhugl ac mae ei ddiddordebau’n cynnwys mynydda, rygbi Cymru a threulio amser gyda’i deulu.

  • Aelodau newydd

    Ym mis Ebrill 2025, fe wnaethon ni croesawu chwe aelod newydd i’n bwrdd. Yr aelodau newydd yw:

    - Edwin Mutambanengwe
    - Isobel Lloyd
    - Katija Dew
    - Neil Ayling
    - Progress Igbedion
    - Sue Phelps

    Bydd proffiliau ar gyfer yr aelodau newydd ar gael ar y dudalen hon yn fuan.