Jump to content
Cyflwyniad i ddiogelu plant sy’n byw mewn gofal preswyl

Dysgwch fwy am ddiogelu'r plant rydych chi'n gofal amdanynt

Beth mae diogelu plant yn ei olygu?

Mae diogelu plant yn ymwneud â chydnabod y peryglon posibl y gallant eu hwynebu a’u gwarchod rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso. Mae hefyd yn ymwneud â’u helpu i gydnabod y peryglon o’u cwmpas.

Mae diogelu yn gyfrifoldeb i bawb unrhyw amser. Fodd bynnag, fel gweithiwr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol mae gennych ddyletswydd i wneud popeth yn eich gallu i sicrhau bod plant yn cael eu gwarchod rhag camdriniaeth a’u bod yn ddiogel. Mae gennych hefyd ddyletswydd i adrodd am unrhyw bryderon diogelu (am blant neu oedolion).

Polisi diogelu eich sefydliad

Mae’n rhaid i’ch sefydliad gael polisi diogelu i roi sylw i unrhyw bryderon sydd gennym am les plentyn. Mae’n bwysig eich bod yn deall y polisi diogelu a dylai hwn fod yn rhan bwysig o’ch hyfforddiant cynefino a’ch hyfforddiant parhaus i sicrhau eich bod yn deall y broses ddiogelu a sut i adrodd am unrhyw bryderon sydd gennych.

Er enghraifft, efallai y bydd person ifanc yn dweud rhywbeth wrthych os byddwch yn addo peidio â dweud. Ni allwch byth cytuno i wneud hyn, ac mae’r plant y gofalwch amdanynt angen gwybod a deall hyn.

Os na fyddwch yn adrodd am bryder sydd gennych am blentyn, gall hyn arwain at:

  • fod plentyn yn dioddef niwed neu mewn perygl o gamdriniaeth y gallech chi o bosibl fod wedi’i hatal
  • camau disgyblu gan eich cyflogwr
  • ymchwiliad addasrwydd i ymarfer gan Gofal Cymdeithasol Cymru am dorri’r Cod Ymarfer Proffesiynol.

Dylai’r holl bobl (plant ac oedolion) rydych chi’n gweithio â nhw ddeall y cyfyngiad hwn ar gyfrinachedd. Dylech drafod hyn â’ch uwch weithiwr sydd ar ddyletswydd, gweithiwr cymdeithasol y plentyn neu’r heddlu yn ddibynnol ar natur eich pryder. Ni ddylech byth ei anwybyddu.

Profiadau plant cyn derbyn gofal

Cyn i’r plant y gofalwch amdanynt ddod i ofal, byddant fel arfer wedi profi trawma neu gamdriniaeth o ryw fath.

Wrth weithio â phlant, caiff camdriniaeth yn aml ei rhannu’n pedwar math (o dan y Ddeddf Plant 1989) (Saesneg yn unig)

Camdriniaeth gorfforol

Camdriniaeth gorfforol yw brifo plentyn yn fwriadol gan achosi anafiadau fel cleisiau, torri esgyrn, llosgiadau neu friwiau. Nid damweiniol ydyw – mae plant sy’n cael eu cam-drin yn gorfforol yn dioddef trais fel cael eu taro, eu cicio, eu gwenwyno, eu llosgi, eu slapio neu cael pethau wedi’u eu taflu atynt.

Weithiau, bydd rhieni neu ofalwyr yn achosi salwch mewn plentyn yn fwriadol neu’n dweud celwyddau am symptomau. Gelwir hyn yn salwch sy’n cael ei ffugio neu’i achosi drwy ddirprwy (arferid ei alw’n Munchausen drwy ddirprwy’). Dylech fod yn ymwybodol o hyn fel rhywbeth i’w ystyried os yw person ifanc yn wael ar ôl dod adre o ymweliad â’i deulu.

Mae Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM) yn fath o gamdriniaeth gorfforol pan fo organau cenhedlu merched yn cael eu torri. Gall y gamdriniaeth hon arwain at fod merched a menywod yn cael problemau gynecolegol wrth iddynt ddatblygu. Efallai y gwelwch yr arwyddion canlynol o FGM mewn plant a phobl ifanc y gofalwch amdanynt:

  • anawsterau pasio dŵr neu anymataliaeth
  • heintiau wrinol aml neu gronig neu yn y pelfis neu’r fagina
  • problemau mislif
  • difrod neu fethiant posibl ar yr arenau
  • systiau neu grawniadau
  • poen wrth gael rhyw
  • anffrwythlondeb
  • cymhlethdodau yn ystod beichiogrwydd a’r esgoriad
  • problemau emosiynol ac iechyd meddwl.

Female genital mutilation (FGM): Signs, indicators and effects (Saesneg yn unig)

Gweler Protocol Cymru Gyfan ar Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (Saesneg yn unig)

Camdriniaeth emosiynol

Camdriniaeth emosiynol yw cam-drin plentyn yn emosiynol yn barhaus. Fe’i gelwir yn gamdriniaeth seicolegol weithiau a gall niweidio iechyd a datblygiad emosiynol plentyn yn ddifrifol. Mae plant sy’n cael eu cam-drin yn emosiynol yn aml yn dioddef math arall o gamdriniaeth (Saesneg yn unig). Mae camdriniaeth emosiynol yn cynnwys ymddygiad bwriadol at blentyn, megis:

  • eu dychryn
  • eu bychanu
  • eu hynysu
  • eu hanwybyddu
  • gweld camdriniaeth ddomestig.

Camdriniaeth rywiol

Camdriniaeth rywiol yw pan fo plentyn cael ei orfodi neu ei ddarbwyllo i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol. Nid oes raid i hyn fod yn gyswllt corfforol a gall ddigwydd ar-lein. Weithiau, ni fydd y plentyn deall bod yr hyn sy’n digwydd iddynt yn gamdriniaeth na hyd yn oed yn deall nad yw’n iawn. Gallent ofni dweud dim. Mae’r NSPCC yn amcangyfrif bod 1 o bob 20 plentyn yn y DU wedi dioddef camdriniaeth rywiol (Saesneg yn unig).

Mae camdriniaeth gyswllt yn golygu cyffwrdd, lle bo’r sawl sy’n cam-drin yn cael cyswllt corfforol â phlentyn, gan gynnwys treiddio. Mae hyn yn cynnwys:

  • cyffwrdd unrhyw ran o’r corff yn rhywiol, p’un a yw’r plentyn yn gwisgo dillad ai peidio
  • treisio neu dreiddio drwy roi gwrthrych neu ran o’r corff yng ngheg, fagina neu anws plentyn
  • gorfodi neu annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol
  • gwneud i blentyn dynnu ei ddillad, cyffwrdd organau cenhedlu rhywun arall neu fastyrbio.

Mae camdriniaeth ddigyswllt yn golygu dim cyffwrdd, megis meithrin perthynas amhriodol ar-lein, cam-fanteisio, darbwyllo plant i gymryd rhan mewn gweithred rywiol dros y rhyngrwyd neu fflachio. Mae’n cynnwys:

  • annog plentyn i wylio neu wrando ar weithredoedd rhywiol
  • peidio â chymryd camau priodol i atal plentyn rhag dod i gysylltiad â gweithgareddau rhywiol pobl eraill
  • cyfarfod plentyn ar ôl meithrin perthynas rywiol amhriodol gyda’r bwriad o’u cam-drin
  • camdriniaeth ar-lein gan gynnwys gwneud delweddau o gam-drin plant, edrych arnynt neu eu dosbarthu
  • caniatáu i rywun arall wneud delweddau o gam-drin plant, edrych arnynt neu eu dosbarthu
  • dangos pornograffi i blant
  • camfanteisio’n rhywiol ar blentyn am arian, pŵer neu statws (camfanteisio’n rhywiol ar blant).

Esgeulustod

Esgeulustod: pan nad yw’r gofalwr yn bodloni anghenion sylfaenol y plentyn. Gall esgeulustod olygu:

  • esgeulustod corfforol: Methu â darparu ar gyfer anghenion sylfaenol plentyn megis bwyd, dillad neu loches. Methu â goruchwylio plentyn yn ddigonol neu ddarparu ar gyfer eu diogelwch
  • esgeulustod addysgol: Methu â sicrhau bod plentyn yn cael addysg
  • esgeulustod emosiynol: Methu â bodloni anghenion plentyn am fagwraeth ac anogaeth, o bosibl drwy ei anwybyddu, ei fychanu, ei fygwth neu ei ynysu. Hwn yn aml yw’r ffurf ar esgeulustod anoddaf i’w brofi
  • esgeulustod meddygol: Methu â darparu gofal iechyd priodol, gan gynnwys gofal deintyddol a gwrthod gofal neu anwybyddu argymhellion meddygol.

Iawndal Anafiadau Troseddol

Os yw’r plant rydych chi’n gweithio â nhw wedi cael eu cam-drin, a bod y troseddwr wedi ei gael yn euog, efallai y bydd ganddynt hawl i Iawndal Anafiadau Troseddol (Saesneg yn unig). Os ydych chi’n meddwl bod un o’r plant y gofalwch amdano’n gymwys, siaradwch â’ch rheolwr neu â gweithiwr cymdeithasol y plentyn.

Profiadau plant pan maent yn byw mewn cartrefi plant

Yn ogystal â’r gamdriniaeth a drafodir uchod, gall plant weithiau brofi mathau eraill o gamdriniaeth y dylech fod yn ymwybodol ohonynt, gan gynnwys:

Camdriniaeth Ddomestig

Gall pobl ifanc yn eu harddegau fod mewn perygl o gamdriniaeth ddomestig, yn enwedig os ydynt wedi gweld camdriniaeth o’r fath yn blant a gan nad ydynt yn adnabod perthnasoedd iach.

Camdriniaeth mewn perthnasoedd pobl ifanc - adlewyrchiadau ar ddau adolygiad achosion difrifol (Saesneg yn unig)

Gall pobl o unrhyw ryw a rhywioldeb ddioddef camdriniaeth ddomestig. Mae’n bosibl nad yw’r bobl ifanc y gweithiwch â nhw yn sylweddoli eu bod yn cael eu cam-drin a gallent camgymryd rhai o arwyddion camdriniaeth am gariad. Er enghraifft, gallai person ifanc brofi:

  • rheolaeth
  • gorfodaeth
  • cael eu hynysu oddi wrth eu ffrindiau a’u teulu
  • ddim yn cael gwisgo colur
  • cael eu gorfodi i wisgo dillad penodol.

Ond fe allent feddwl bod ymddygiad o’r fath yn golygu bod eu partner yn dangos cariad atynt.

Gallai hyn hefyd fod yn wir os ydynt yn cael eu stelcio neu’n cael eu hatal rhag mynd allan ar eu pen eu hunain: gallai dwyster y berthynas deimlo’n braf am ychydig.

Os ydynt yn dioddef camdriniaeth gorfforol, efallai bod ganddynt gleisiau na allant eu hesbonio, efallai nad ydynt yn sylweddoli nad yw trais mewn perthynas yn dderbyniol, gan ddweud er enghraifft, “dim ond slap oedd hi”. Mae pobl ifanc yn eu harddegau mewn perthnasoedd camdriniol yn wynebu’r un risgiau ag oedolion, felly mae angen ichi reoli’r risgiau hyn yn ofalus.

Mae SafeLives wedi cynhyrchu adnodd Working with young people who experiencing relationship abuse (Saesneg yn unig)

Offer ar y rhyngrwyd am berthnasoedd camdriniol yw STIRitAPP, ac fe’i gwnaed gan bobl ifanc eu hunain.

Gallech hefyd ddod ar draws trais ar sail anrhydedd: sef ffurf ar gamdriniaeth ddomestig lle mae pobl mewn perygl o niwed, oherwydd y credir eu bod wedi niweidio ‘anrhydedd’ y teulu drwy ymddwyn mewn ffyrdd nad ydynt yn cyd-fynd â diwylliant neu gredoau’r teulu. Efallai bod person ifanc wedi bod mewn perthynas â rhywun nad yw’n dderbyniol i’r teulu, neu efallai eu bod wedi ymddwyn mewn ffordd y mae’r teulu’n ystyried sy’n amhriodol. I gadw ‘anrhydedd’ y teulu, gallai’r unigolyn hwnnw wedyn ddioddef camdriniaeth neu niwed.

Trais ar sail anrhydedd a phriodas dan orfod

Camfanteisio’n rhywiol ar blant/ Camfanteisio troseddol

Masnachu

Gall plant gael eu masnachu mewn nifer o wahanol ffyrdd. Mae’n bosibl bod rhai plant wedi cael eu dwyn i mewn i’r DU yn benodol er mwyn camfanteisio arnynt. Fodd bynnag, gall plant gael eu masnachu o un dref neu stryd i’r llall, neu ar draws ffiniau siroedd hefyd, ac mae’r math hwn o fasnachu’n aml yn cael ei gyplysu â mathau eraill o gamdriniaeth, fel arfer camfanteisio’n rhywiol ar blant neu gamfanteisio troseddol.

Dyma rai arwyddion i chwilio amdanynt:

  • mynd ar goll am ddyddiau, a ddim yn dweud i lle maent yn mynd na lle y buont
  • ddim yn ateb eu ffôn pan maent ar goll
  • gofyn ichi eu casglu o lefydd lle nad oes ganddynt ddim cysylltiad (er enghraifft, os yw eu teulu a’u ffrindiau mewn un lle yn y sir neu’r dref ond eu bod yn gofyn ichi eu casglu o ochr arall y sir neu’r dref)
  • yn gwisgo dillad anaddas neu heb ddim esgidiau pan gânt eu casglu. Gallai hyn olygu eu bod wedi dianc o rywle
  • yn ymddwyn yn rhyfedd neu’n camddefnyddio sylweddau
  • yn mynd i’w cragen
  • yn colli pwysau
  • yn esgeuluso eu hylendid personol neu eu hedrychiad.

Mae yna wahaniaeth yn y ffordd yr adroddir wrth yr Heddlu am blant sy’n rhedeg i ffwrdd:

Mae ‘ar goll’ yn golygu nad oes neb yn gwybod lle mae’r plentyn neu’r person ifanc a chredir eu bod mewn perygl. Gall hyn gynnwys plant sydd ar goll dros nos.

Mae ‘absennol heb awdurdod’ yn golygu eich bod yn gwybod lle maent ond eu bod yn gwrthod dod adref. Gall hyn gynnwys plant sy’n aros allan ar ôl eu cyrffyw.

Pan ddywedwch wrth yr heddlu am eu habsenoldeb mae’n ddefnyddiol bod yn glir am y gwahaniaeth, a dilyn cynllun gofal y plentyn a’r hyn y mae hwnnw’n ddweud am sut i ddelio â hyn.

Dysgwch fwy am y diffiniadau o fynd ar goll (Saesneg yn unig)

Camdriniaeth ar-lein/seiber

Caiff rhai plant eu cam-drin ar-lein. Gallai hyn fod ar ffurf camdriniaeth rywiol ddigyswllt fel y trafodir uchod ond gallai hefyd fod yn fwlio ar-lein neu’n feithrin perthynas amhriodol gyda’r bwriad o gynnwys plant mewn rhai o’r mathau eraill o gamdriniaethau a drafodir yma (camfanteisio’n rhywiol ar blant, radicaleiddio ac eraill).

Dyma rai arwyddion i chwilio amdanynt:

  • yn mynd i’w cragen
  • ddim eisiau mynd i’r ysgol
  • ddim eisiau mynd allan
  • osgoi llefydd a phobl gyfarwydd
  • ymgeisiadau i gyflawni hunanladdiad neu hunan-niweidio
  • cyfarfod â phobl nad ydynt gyda nhw fel arfer
  • defnyddio sylweddau sy’n anarferol
  • mwy nag un ffôn neu wahanol ffonau
  • yn ceisio cuddio’u gweithgareddau ar-lein.

Mae gan yr NSPCC adnodd o’r enw Online abuse – what is online abuse? (Saesneg yn unig)

Radicaleiddio

Mae grwpiau sydd â safbwyntiau eithafol yn targedu rhai plant. Yn yr un ffordd ag y mae plant y gofalwch amdanynt yn agored i bobl feithrin perthnasoedd amhriodol â nhw er mwyn camfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol arnynt, gallent hefyd fod yn chwilio am deimlad o ‘berthyn’ a bydd y grwpiau hyn yn manteisio ar hynny.

Gallai’r radicaleiddio fod yn safbwyntiau crefyddol eithafol, safbwyntiau adain dde eithafol (er enghraifft, hiliaeth) neu adain chwith eithafol (er enghraifft, mudiadau sydd eisiau anghydfod cymdeithasol treisgar) ac nid yw’n gyfyngedig i ethnigrwydd na chrefyddau penodol. Os ydych yn amau bod rhywun yn cael ei radicaleiddio ar gyfer terfysgaeth, rhaid ichi ddweud wrth yr heddlu (Saesneg yn unig).

Mae’r arwyddion i chwilio amdanynt yn debyg i’r rhai camdriniaeth ar-lein/seiber uchod, ond cynhwysant hefyd:

  • treulio mwy o amser ar-lein a ddim yn dweud wrthych beth maent yn ei wneud
  • newid yn eu hymddygiad a/neu yn eu hedrychiad
  • yn mynegi safbwyntiau hiliol neu eithafol.

Ariannol

Gall camdriniaeth ariannol ddigwydd ar sawl ffurf, ac unwaith eto fe all groesi drosodd i’r mathau o gamdriniaethau a ddisgrifir uchod. Gall hyn gynnwys camddefnyddio budd-daliadau’r plentyn neu’r lwfansau a delir i’r cartref, neu gyflog neu arian poced yn cael ei gymryd oddi arnynt. Gall plant hefyd gael eu defnyddio i hawlio budd-daliadau neu gael eu gorfodi i fegera neu droseddu am arian. Un enghraifft o hyn yw pan fo plant yn cael eu gorfodi i ddwyn drwy orchymyn o siopau i wneud arian.

Dyma rai arwyddion i chwilio amdanynt:

  • plentyn heb yr eitemau sylfaenol megis cynnyrch mislif a dillad addas, neu’n gorfod talu amdanynt allan o’i arian ei hun
  • plant heb yr arian y gwyddoch y dylai fod ganddynt (er enghraifft arian poced)
  • plant yn dwyn eitemau nad ydynt yn ymddangos eu bod ar eu cyfer nhw.

Darllenwch fwy am gamdriniaeth ariannol (Saesneg yn unig)

Beth ddylech chi wneud os credwch fod yna broblem ddiogelu?

Os oes gennych unrhyw bryderon fod y plentyn y gofalwch amdano yn dioddef camdriniaeth, rhaid ichi siarad â rhywun. Os bydd rhywun yn dweud wrthych am gamdriniaeth, ni allwch ei gadw’n gyfrinach. Cofiwch y gallai plentyn fod yn dioddef amrywiol gamdriniaethau ac na fyddant bob amser yn ffitio i’r categorïau taclus uchod.

Gwyliwch a gwrandewch am unrhyw arwyddion neu newidiadau yn eu hymddygiad ac mae’n rhaid ichi wastad drafod unrhyw bryderon sydd gennych â’ch rheolwr, gweithiwr cymdeithasol y plentyn neu’r heddlu, yn unol â pholisi diogelu eich sefydliad. Mae rhai digwyddiadau yn ‘ddigwyddiadau hysbysadwy’ ac mae’n rhaid ichi ddweud wrth Arolygiaeth Gofal Cymru amdanynt. Mae rhagor o wybodaeth am y ddyletswydd hon i’w chael yn Rhan 15 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017.

Camdriniaeth sefydliadol neu drefniadol

Yn anffodus, ceir achosion pan nad yw’r plant sy’n derbyn gofal yn cael eu cadw’n ddiogel mewn cartrefi plant. Mae hyn yn golygu plant nad ydynt yn derbyn y gofal priodol a lle mae arferion gwael ac anniogel yn systematig yn y cartref a/neu’r sefydliad.

Gallai hyn ddigwydd oherwydd nad yw’r staff yn deall y cyfrifoldebau sut i ddarparu gofal neu gallai fod oherwydd bod gweithwyr yn mynd ati’n fwriadol i achosi niwed i blant. Gallai fod yn un gweithiwr, yn grŵp o weithwyr, a gall diwylliant o ofal gwael a/neu gamdriniaeth ddatblygu mewn cartrefi. Er enghraifft, gallech weld ‘ataliaeth’ yn cael ei defnyddio’n anghywir neu’n rhy aml i ddangos pŵer dros blant.

Ceir sawl achos hysbys lle mae plant wedi cael eu cam-drin yn systematig gan nifer o unigolion mewn cartrefi plant (Saesneg yn unig). Mae hyn bob amser yn ymwneud â chamddefnyddio pŵer a gall fod yn anodd iawn codi llais os gwelwch neu os glywch rywbeth sy’n peri pryder, yn enwedig os teimlwch mai chi yw’r unig un sy’n pryderu. Os gallwch, siaradwch â’ch rheolwr neu ag uwch gydweithiwr neu rywun nad ydych chi’n pryderu yn ei gylch. Ni waeth pa mor anodd ydy lleisio’ch pryderon, rhaid ichi beidio â gwneud dim. Mae gan eich sefydliad bolisi ‘chwythu’r chwiban’ a gan eich bod wedi’ch cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru, mae’n ddyletswydd arnoch adrodd am unrhyw bryderon sydd gennych.

Adnoddau defnyddiol

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd gweithwyr gofal preswyl i blant drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.

Cyhoeddwyd gyntaf: 20 Mawrth 2019
Diweddariad olaf: 25 Medi 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (70.8 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch