Dysgwch fwy am gamfanteisio ar blant a'r hyn y dylech chi ei wneud os ydych chi'n meddwl ei fod yn digwydd i blentyn
Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant
Mae Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant yn fath penodol o gam-drin rhywiol. Bydd un neu ragor o bobl yn magu perthynas amhriodol â phlentyn ac yn cynnig rhoddion, arian a serch i gyflawni gweithredoedd rhywiol ar un neu ragor o bobl. Fel arfer, mae cyffuriau ac alcohol yn rhan o hyn. Gall fod yn gysylltiedig â gangiau a throseddu a gall dargedu merched neu fechgyn.
Gall Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant ddigwydd ar-lein; nid oes rhaid i blant gwrdd â chamdrinwyr wyneb yn wyneb er mwyn iddynt gam-fanteisio arnynt drwy ofyn iddynt anfon delweddau rhywiol, er enghraifft. Camfanteisir ar tua 2,400 o blant ar-lein bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig.
Mae gan y Ganolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP) gyngor ar-lein i weithwyr proffesiynol, yn ogystal â phobl ifanc a’u teuluoedd (Saesneg yn unig).
Gall plant fod yn ifanc iawn pan ddechreuir magu perthynas amhriodol (rydym wedi clywed am blant sydd mor ifanc ag 11 oed, ond mae hyn yn newid drwy’r amser). Gall plant feddwl eu bod wedi cydsynio i’r math hwn o weithgarwch, a dyna pam mae’n cael ei alw’n gam-fanteisio. Mae’n bwysig cofio mai cam-drin yw hwn, hyd yn oed os yw’n ymddangos bod y plentyn rydych yn gofalu amdano/amdani yn ‘cytuno’ i hyn neu’n mynd ati i chwilio am y camdrinwyr.
Yn y DU, yr oedran cydsynio i berthynas rywiol yw 16 oed. Fodd bynnag, nid yw perthnasoedd rhywiol o reidrwydd yn gydsyniol dim ond oherwydd bod y person ifanc dros 16 oed. Yn aml, mae Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant yn cynnwys meddwi bwriadol neu ddefnyddio cyffuriau, bygwth a thrais gwirioneddol. Nid yw rheoli neu gam-drin corfforol a seicolegol byth yn gydsyniol, ni waeth beth yw oedran y person ifanc.
Cydsyniad – mae’n syml iawn. Mae’r fideo hwn yn esbonio mewn ffordd hawdd ei deall pa mor syml yw penderfynu a ydych yn cydsynio i weithgaredd neu beidio (Saesneg yn unig).
Mae sianel Childline ar YouTube yn cynnwys nifer o fideos o bobl ifanc yn esbonio cydsyniad (Saesneg yn unig).
Ffactorau sy’n golygu bod pobl ifanc yn agored i niwed yn sgil Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant
Rydym yn gwybod bod pobl ifanc sy’n byw mewn gofal plant preswyl yn arbennig o agored i niwed yn sgil Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant am rai o’r rhesymau isod:
- maent yn agored i niwed ac wedi’u hynysu oddi wrth deulu sefydlog
- efallai eu bod wedi’u cam-drin yn rhywiol yn y gorffennol
- efallai bod ganddynt awydd cryf i fod yn rhan o grŵp.
Mae angen ichi fod yn ymwybodol o hanes y plant rydych yn gofalu amdanynt. Gofynnwch i’ch rheolwr a gweithiwr cymdeithasol y plentyn a ydynt yn arbennig o agored i niwed yn sgil Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant a sut y gallwch helpu i’w hamddiffyn rhag y math hwn o gam-drin.
Arwyddion rhybuddio ynghylch Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant
Mae’r canlynol yn arwyddion rhybuddio ynghylch Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant y dylech wylio amdanynt:
- Newidiadau mewn ymddygiad
- Cael dillad, esgidiau ymarfer neu ffonau symudol o ffynhonnell anhysbys
- Ceir anhysbys yn aros y tu allan i’r cartref yn rheolaidd
- Gwallt, dillad neu golur sydd â’r bwriad o wneud iddynt edrych yn hŷn
- Defnyddio geiriau rhywiol nad ydynt yn briodol i’w hoedran ac na fyddech yn disgwyl iddynt eu gwybod
- Bod ganddynt ‘gariad’ hŷn.
Hefyd, dylech fod yn ymwybodol o’r arwyddion rhybuddio canlynol:
- mynd ar goll
- aros allan yn hwyr
- dod adref dan ddylanwad cyffuriau a/neu alcohol.
Addysgu pobl ifanc ynghylch Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant
Mae angen ichi addysgu plant a phobl ifanc ynghylch Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant, gan gynnwys:
- ffyrdd o aros yn ddiogel ar-lein ac all-lein
- sut gellid magu perthynas amhriodol â nhw
- gwneud synnwyr o’r hyn sydd wedi digwydd os bydd pethau yn mynd o’u lle
- sgiliau ymdopi iachus (er enghraifft siarad â phobl rydych chi'n ymddiried ynddynt, gwneud ymarfer corff, neu ddysgu gweithgarwch newydd) yn hytrach nac ymdopi sy' ddim yn iachus (er enghraifft defnyddio sylweddau, gor-fwyta, neu gymryd risgiau).
Po fwyaf y byddant yn ei wybod, hawsaf y bydd iddynt adnabod yr arwyddion rhybuddio a throsglwyddo’r wybodaeth honno i chi neu i weithwyr proffesiynol eraill.
Mae’n hollbwysig eich bod yn rhoi gwybod i’ch rheolwr, yr Heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol bob amser os oes gennych bryderon ynghylch Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant. Peidiwch â thybio bod y ‘trothwyon’ yn rhy isel neu nad oes digon o brawf.
Camfanteisio troseddol a ‘llinellau cyffuriau’
Ystyr ‘llinellau cyffuriau’ yw lle mae gangiau o’r tu allan i’r ardal leol yn ‘recriwtio’ pobl ifanc agored i niwed i weithio iddynt. Fel arfer, bechgyn yw’r recriwtiaid a gallant fod yn ifanc iawn (rydym wedi clywed am blant 11 neu 12 oed). Mae’r gangiau yn dod o ardaloedd trefol fel Birmingham, Lerpwl a Llundain, ac mae’r term ‘llinellau cyffuriau’ yn ymwneud â’r llinellau ffôn y maent yn eu defnyddio i ymestyn eu gweithrediadau cyffuriau ledled y DU.
I ddechrau, mae’r plant hyn yn cyflawni tasgau fel cuddio arian neu ddrylliau. Yna, mae’r gang yn eu hyfforddi i fod yn ‘rhedwyr’. Mae hyn yn golygu dosbarthu cyffuriau a chasglu arian ar ran y delwyr. Mae plant yn ddefnyddiol i ddelwyr oherwydd:
- eu bod yn agored i gamfanteisio arnynt
- os byddant yn cael eu dal, yn aml byddant yn cael llai o ddedfryd nag oedolion.
Er mwyn sicrhau bod y person ifanc yn parhau i weithio iddynt, mae’r gangiau yn defnyddio tactegau bygwth a bwlio tuag at y bobl ifanc neu’n gwneud bygythiadau i niweidio eu teulu. Gall y person ifanc ddiflannu am ddyddiau. Mae’r gangiau yn rhoi tasgau ‘derbyn’ cynyddol anodd a pheryglus i’r rhedwyr er mwyn profi eu teyrngarwch. Gall y rhain gynnwys cyflawni neu brofi trais neu gam-drin, yn ogystal â dosbarthu cyffuriau.
Mae cam-fanteisio ar draws llinellau cyffuriau yn digwydd yng Nghymru.
Ffactorau sy’n golygu bod pobl ifanc yn agored i niwed yn sgil ‘llinellau cyffuriau’
Fel Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant, mae llinellau cyffuriau yn golygu magu perthynas amhriodol a rheoli, ac fel Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant, bydd grwpiau troseddu cyfundrefnol yn targedu pobl ifanc sy’n byw mewn gofal preswyl ar gyfer cam-fanteisio ar draws llinellau cyffuriau. Mae hyn oherwydd bod y gang yn gweld:
- eu bod wedi’u hynysu oddi wrth deulu a ffrindiau
- nad ydynt yn byw mewn cartref sefydlog
- eu bod eisoes wedi profi esgeulustod a chamdriniaeth yn ôl pob tebyg
- eu bod yn fregus yn economaidd.
Yn ogystal â defnyddio rhoddion, arian, bygwth a thrais, mae gangiau yn defnyddio’r ffaith bod pobl ifanc sy’n byw mewn gofal preswyl yn aml yn dyheu am ddiogelwch, statws, serch neu gyfeillgarwch.
Fel Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant, dylech gydnabod bod ‘llinellau cyffuriau’ yn gamfanteisio, hyd yn oed os yw’r person ifanc yn credu bod hyn yn gydsyniol.
Arwyddion rhybuddio ynghylch ‘llinellau cyffuriau’
Mae’r arwyddion rhybuddio y dylech wylio amdanynt, sy’n dangos y gallai person ifanc fod yn ymwneud â ‘llinellau cyffuriau’, yn cynnwys y canlynol:
- dod adref yn hwyr, aros allan drwy’r nos neu fynd ar goll
- eu canfod mewn ardaloedd i ffwrdd o’u cartref
- defnydd cynyddol o gyffuriau neu eu canfod â llawer o gyffuriau
- bod yn gyfrinachol am bwy maen nhw’n siarad â nhw ac i ble maen nhw’n mynd
- absenoldebau heb esboniad o’r ysgol, y coleg, hyfforddiant neu’r gwaith
- arian, ffôn/ffonau, dillad neu emwaith heb esboniad
- ymddygiad cynyddol aflonyddgar neu ymosodol
- defnyddio iaith rywiol, dreisgar neu iaith sy’n ymwneud â chyffuriau na fyddech yn disgwyl iddynt ei gwybod
- dod adref ag anafiadau neu edrych yn arbennig o anniben
- meddu ar gardiau gwesty neu allweddi i leoedd anhysbys.
Mae’n rhaid ichi ddilyn polisi diogelu eich sefydliad drwy ddweud wrth eich rheolwr, yr Heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol os ydych yn credu bod un o’ch pobl ifanc yn ymwneud â llinellau cyffuriau. Maent mewn perygl o gyhuddiadau troseddol difrifol a bod yn rhan o droseddu cyfundrefnol treisgar.
Termau cyffredin sy’n cael eu defnyddio ym maes delio mewn cyffuriau a ‘llinellau cyffuriau’
Mae’r termau canlynol yn cael eu defnyddio ym maes delio mewn cyffuriau a cham-fanteisio ar draws ‘llinellau cyffuriau’:
'Cuckooing': mae gang cyffuriau yn cymryd cartref person ifanc a’i deulu/theulu drosodd drwy ddefnyddio bygwth a thrais.
'Going county': disgrifio’r gweithgarwch ar draws llinellau cyffuriau: person sy’n teithio i leoedd ac oddi yno i ddosbarthu cyffuriau neu arian.
'Trapping': y weithred o werthu cyffuriau.
'Trap house': adeilad neu ganolfan lle mae cyffuriau yn cael eu gwerthu ac weithiau yn cael eu cynhyrchu. Mae’r person ifanc yn cael ei (g)orfodi i aros a gweithio yma.
'Trap line': ffôn symudol sy’n cael ei ddefnyddio’n benodol i ddosbarthu a gwerthu cyffuriau.
Astudiaeth achos
Adnoddau defnyddiol am Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant
Mae llinell gymorth yr NSPCC yn cynnig cymorth a chefnogaeth: 0808 800 5000.
Gall gwasanaeth Childline roi cymorth i bobl ifanc ag unrhyw broblemau neu beryglon y maent yn eu hwynebu bob awr o’r dydd neu’r nos: 0800 1111.
Mae nifer o fideos am fagu perthynas amhriodol wyneb yn wyneb ac ar-lein ar gael ar sianel Childline ar YouTube (Saesneg yn unig)
Mae gan Barnardo’s wybodaeth am Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant (Saesneg yn unig)
Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant: Problemau ac Atebion o safbwynt pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol
Adnoddau defnyddiol am linellau cyffuriau
Mae gan Gymdeithas y Plant adnoddau am linellau cyffuriau (Saesneg yn unig)
Stop & Prevent Adolescent Criminal Exploitation (SPACE) (Saesneg yn unig)
Crossing the Line - Britain's Teenage Drug Mules. Rhaglen ddogfen y gallwch wrando arni am linellau cyffuriau (Saesneg yn unig)
Hefyd, mae gan Volteface fideos am gamfanteisio ar draws llinellau cyffuriau (Saesneg yn unig)
Eisiau eich adborth
Helpwch ni i wella'r Adnodd gweithwyr gofal preswyl i blant drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.