Mae strategaeth gyntaf ar gyfer y gweithlu yn cael ei datblygu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a ni, gyda chefnogaeth y Sefydliad Gofal Cyhoeddus ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen. Ers mis Ionawr 2019, rydym wedi ymgysylltu â mwy na 1,000 o bobl i’n helpu i ddatblygu’r ddogfen ymgynghori hon.
Nawr, rydym eisiau clywed eich barn am y themâu a'r gweithrediadau sydd wedi cael eu datblygu fel rhan o'r ymgysylltu cyn i strategaeth cael ei chwblhau ar gyfer ei lansio’r flwyddyn nesaf.
Mae’n dilyn cyhoeddi Cymru Iachach, sef gweledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd hyn mewn ymateb i Adolygiad Seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a gyhoeddodd ei ganfyddiadau ym mis Ionawr 2018.
Uchelgais Cymru Iachach yw cael systemau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gweithio gyda’i gilydd fel na fydd pobl sy’n eu defnyddio yn sylwi pan fydd gwasanaethau’n cael eu darparu gan sefydliadau gwahanol. Bydd system ddi-dor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn golygu bod angen gweithlu sy’n darparu gofal o’r radd flaenaf, ni waeth pwy fydd yn cyflogi’r gweithlu hwnnw neu le y bydd wedi’i leoli.
O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Addysg a Gwella Iechyd Cymru a ni i ddatblygu strategaeth hirdymor ar gyfer y gweithlu mewn partneriaeth â’r GIG a llywodraeth leol, a’r sectorau gwirfoddol ac annibynnol, yn ogystal â rheoleiddwyr, cyrff proffesiynol a darparwyr addysg.
Mae strategaeth y gweithlu yn gyfle i newid y sgwrs – i ddeall yr hyn sy’n bwysig i’r gweithlu wrth ddarparu gofal a chymorth i’n poblogaeth, yn ogystal â’r hyn sy’n bwysig i’r bobl sy’n derbyn y gofal hwnnw. Gwyddom fod hyn yn hanfodol ar gyfer darparu gofal rhagorol.