Jump to content
Rhowch eich barn am 'Ymlaen: Y strategaeth ymchwil, arloesi a gwella ar gyfer gofal cymdeithasol 2024 i 2029'
Ymgynghoriad

Rhowch eich barn am 'Ymlaen: Y strategaeth ymchwil, arloesi a gwella ar gyfer gofal cymdeithasol 2024 i 2029'

- | Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi dod â phartneriaid a rhanddeiliaid ynghyd i greu strategaeth ymchwil, arloesi a gwella newydd ar gyfer y sector gofal cymdeithasol.

Gyda’n gilydd, rydyn ni am greu diwylliant lle mae tystiolaeth yn ganolog i ddarpariaeth ac yn cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau ar bob lefel o ofal cymdeithasol.

Rydyn ni hefyd eisiau i bobl deimlo eu bod wedi’u hysbrydoli a’u cefnogi i roi cynnig ar bethau newydd.

Ein gweledigaeth yw bod:

Pobl sy’n arwain, yn datblygu ac yn darparu gofal cymdeithasol yn teimlo’n hyderus, yn cael eu cefnogi a’u hysbrydoli i ddefnyddio tystiolaeth ac arloesedd i wneud gwahaniaeth positif i ofal a chymorth yng Nghymru.

Ymlaen yw'r strategaeth rydyn ni wedi'i datblygu gyda'n gilydd i gyflawni'r weledigaeth honno.

Rydyn ni nawr eisiau clywed eich barn am y gwaith sydd wedi'i wneud hyd yn hyn.

Rydyn ni wedi ceisio cadw cwestiynau'r ymgynghoriad yn syml a chanolbwyntio ar yr hyn rydyn ni'n gobeithio sydd bwysicaf i chi.

Sut i ymateb

Mae'r ymgynghoriad wedi cau.

Diolch am roi o’ch amser i rannu eich safbwyntiau â ni.

Fe wnaethon ni lansio'r strategaeth orffenedig ym mis Mai 2024. Gallwch ei ddarllen trwy glicio isod.