Ar hyn o bryd mae gennym ni tua 18,000 o weithwyr ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol.
Mae gweithwyr gofal cartref bellach yn cofrestru gyda ni a bydd yn orfodol iddyn nhw gofrestru o 2020.
Bydd gweithwyr cartref gofal i oedolion a gweithwyr cymorth canolfannau preswyl i deuluoedd yn gallu cofrestru o 2020 a bydd yn orfodol iddyn nhw gofrestru o 2022.
I gefnogi’r estyniad parhaus hwn o’r Gofrestr, rydyn ni’n ceisio’ch barn am ein cynigion ar gyfer:
- y gofynion y bydd angen i weithwyr gofal cartref i oedolion a gweithwyr cymorth canolfannau preswyl i deuluoedd eu bodloni i gofrestru gyda ni
- y safonau y disgwylir i’r gweithwyr hynny weithio iddynt, gan gynnwys y canllawiau ymarfer drafft ar gyfer gweithwyr gofal cartref i oedolion.
Hefyd, rydyn ni’n ceisio’ch adborth am nifer o newidiadau yr ydym wedi’u cynnig i’n system bresennol o gofrestru. Sef:
- galluogi gweithwyr gofal preswyl i blant i gofrestru’n gychwynnol gan ddefnyddio Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal Cymdeithasol Cymru, er mwyn gwneud y dyfarniad yn llwybr cyson at gofrestru ar gyfer yr holl weithwyr gofal cymdeithasol
- newid y ffordd yr ydym yn caniatáu cofrestru yn flynyddoedd dau a thri i atal peidio â thalu ffioedd cofrestru
- mabwysiadu ffordd fwy hyblyg o gydnabod gweithiwr gofal cymdeithasol fel rheolwr mewn gwasanaethau sydd heb reolwr am resymau dilys.
Yn ogystal, rydyn ni wedi cyflwyno rhai syniadau cychwynnol i symleiddio’r categorïau o weithwyr sydd ar y Gofrestr a byddwn ni’n croesawu’ch safbwyntiau ar y rhain.
Mae’r ymgynghoriad ar agor am wyth wythnos a bydd yn cau am 5pm ar ddydd Gwener, 20 Rhagfyr 2019.
Sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad
Os hoffech chi gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, lawrlwythwch y ddogfen ymgynghori a chwblhewch ein harolwg byr ar-lein. Gallwch ateb y cwestiynau i gyd neu’r rhai sydd bwysicaf i chi’n unig.
Gallwch hefyd e-bostio’ch ymateb i ymgynghoriadau@gofalcymdeithasol.cymru.