Jump to content
Ein blaenoriaethau drafft ar gyfer 2021 i 2026
Ymgynghoriad

Ein blaenoriaethau drafft ar gyfer 2021 i 2026

- | Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Mae’r ymgynghoriad hwn bellach ar gau

Bydd ein cynllun pum mlynedd yn egluro sut rydym yn bwriadu gwireddu ein gweledigaeth a sicrhau’r canlyniadau a’r effaith gadarnhaol rydym i gyd am eu gweld. Ni fydd yn nodi manylion yr hyn a wnawn – caiff hyn ei gynnwys yn ein cynlluniau busnes blynyddol.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cyflwyno ein blaenoriaethau drafft a fydd yn arwain at ganlyniadau sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Byddwn yn adolygu’n rheolaidd sut rydym yn gwneud y defnydd gorau o’n cyllid, ein staff a’n partneriaethau. Rydym yn datblygu amrywiaeth o ddulliau i’n helpu i fesur effaith ein gwaith. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i bennu casgliad o fesurau a byddwn yn eu cynnwys yn fersiwn derfynol ein cynllun strategol, pan gaiff ei gyhoeddi yn ystod y gaeaf.

Rydym wedi cyflwyno ein blaenoriaethau a’n cynigion ar gyfer yr hyn rydym am ei gyflawni, lle rydym yn awgrymu ein bod yn canolbwyntio ein hymdrechion a sut rydym am weithio gyda chi dros y pum mlynedd nesaf i wireddu ein gweledigaeth.

Nawr rydym yn gofyn i chi ein helpu i wneud yn siŵr ei fod yn ein rhoi ar ben ffordd. A ydym yn canolbwyntio ar y pethau cywir? A ydym yn bod yn ddigon eofn? Beth fydd canlyniadau ein gwaith?

Mae’r ymgyngoriad ar agor am 10 wythnos ac yn cau am 5pm, 13 Tachwedd 2020.

Sut i ymateb

Os hoffech chi ddweud eich dweud ar ein blaenoriaethau arfaethedig, gallwch wneud hynny drwy:

  • gwblhau’r arolwg ar-lein
  • gwblhau’r ddogfen ymgynghori 'Ein blaenoriaethau drafft ar gyfer 2021 i 2026: Cefnogi gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru' isod a’i e-bostio at rhian.jones@gofalcymdeithasol.cymru neu gwblhau’r ddogfen a’i hanfon drwy’r post at Rhian Jones, Gofal Cymdeithasol Cymru, Tŷ South Gate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW
  • gofyn am drafodaeth yn un o’ch cyfarfodydd rheolaidd.