Jump to content
Diweddariad ar ein dull o ymdrin â data gofal cymdeithasol

Dyma ein diweddariad cyntaf ar yr Ymagwedd strategol at ddata gofal cymdeithasol yng Nghymru, ein prosiect i ddatblygu dull newydd o ymdrin â data gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae hon yn rhaglen waith hirdymor i wella’r ffordd yr ydym yn casglu, dadansoddi a defnyddio’r data a gesglir wrth ddarparu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Sut y gwnaethom ni ddatblygu ein hymagwedd

Mae ein hadroddiad ar y cam darganfod yn disgrifio data gofal cymdeithasol yng Nghymru a’r meysydd sydd angen eu gwella.

Mae ein datganiad o fwriad strategol yn dwyn ynghyd sefydliadau sydd am wella’r ffordd y caiff data ei gasglu a’i ddefnyddio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n disgrifio ein nodau ar gyfer data gofal cymdeithasol ac yn nodi wyth maes blaenoriaeth o waith. Rydyn ni wedi dechrau gweithio ym mhob maes ac wedi gwneud cynnydd yn erbyn ein hamcanion.

Yr hyn rydyn ni wedi’i wneud ers dechrau’r prosiect

Rydyn ni wedi:

  • datblygu sut rydyn ni’n siarad â phobl yng Nghymru am y defnydd o ddata iechyd a gofal, ynghyd â’n partneriaid, Llywodraeth Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru
  • cytuno ar sut y byddem yn gweithio gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar gyfer y rhaglen Adnodd Data Cenedlaethol a gofal cymdeithasol yng Nghymru
  • rydyn ni wedi helpu awdurdodau lleol i rannu eu data gyda SAIL a’r Networked Data Lab ac wedi edrych ar sut y gallai porth rhannu gwybodaeth helpu i weinyddu rhannu data
  • gwella'r ffordd rydyn ni’n casglu data am y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru
  • creu canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol sydd am rannu data
  • cyhoeddi’r adroddiad, Cwmpasu fframwaith datblygiad proffesiynol ar gyfer dadansoddwyr data gofal cymdeithasol yng Nghymru, sy’n edrych ar y gweithlu data mewn gwasanaethau awdurdodau lleol, a dechrau cyfres o brosiectau sgiliau data
  • gweithio gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru i ddarparu eu rhaglen ddysgu dadansoddeg lefel sylfaen gyda KPMG.

Beth fyddwn ni'n ei wneud nesaf

Erbyn Ebrill 2023 rydyn ni’n gobeithio:

  • gweithio gyda sefydliad profiadol i'n helpu i siarad â phobl ledled Cymru am ddata iechyd a gofal
  • parhau â'n gwaith gydag ADSS Cymru i osod ein blaenoriaethau data ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru
  • gweithio gydag awdurdodau lleol i ddeall a ydynt yn barod ar gyfer y rhaglen Adnodd Data Cenedlaethol
  • parhau â’n gwaith gyda’r Networked Data Lab a chryfhau ein dull o gysylltu data gweinyddol, drwy weithio gyda SAIL ac Uned Ymchwil Data Gweinyddol Llywodraeth Cymru
  • gweithio gydag awdurdodau lleol i ddiffinio safonau data ar gyfer data gofal cymdeithasol
  • cyflwyno dau brosiect ‘alffa’ ar gyfer sgiliau dadansoddi data
  • cyhoeddi diweddariadau rheolaidd am waith y strategaeth ddata.

Gweld yr adroddiad llawn

Cyhoeddwyd gyntaf: 18 Hydref 2022
Diweddariad olaf: 10 Tachwedd 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (42.0 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch