Jump to content
Ysgol haf gofal cymdeithasol: disgyblion Sir Benfro yn cael blas ar yrfaoedd mewn gofal cymdeithasol
Newyddion

Ysgol haf gofal cymdeithasol: disgyblion Sir Benfro yn cael blas ar yrfaoedd mewn gofal cymdeithasol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Disgyblion Ysgol Uwchradd WR Hwlffordd yw’r cyntaf i dderbyn rhaglen hyfforddiant newydd cyflwyniad i ofal cymdeithasol.

Mae’r ysgol haf gofal cymdeithasol yn rhaglen hyfforddiant ar gyfer ysgolion, sydd â’r bwriad o ysbrydoli pobl ifanc i ddilyn gyrfa mewn gofal cymdeithasol. Cyflwynwyd y rhaglen newydd yma i dros 40 o ddisgyblion mewn dau grŵp blwyddyn.

Bu disgyblion blwyddyn 13 yn cymryd rhan mewn diwrnod a hanner o weithdai, a gyflwynwyd gan weithwyr proffesiynol mewn gofal cymdeithasol. Cafodd y disgyblion:

  • ddealltwriaeth o’r sgiliau a’r rhinweddau hanfodol sydd eu hangen ar bobl sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol
  • drafodaeth am y math o bobl sy’n defnyddio gofal cymdeithasol, a’u hanghenion
  • gyflwyniad i’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y ddeddfwriaeth sy’n rhoi sail i ofal cymdeithasol yng Nghymru
  • drosolwg o gyfrifoldebau'r rhai sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol, gan gynnwys caniatâd, cyfrinachedd a diogelu.

Cafodd y bobl ifanc hefyd gyngor i’w helpu nhw i ddilyn gyrfa mewn gofal cymdeithasol. Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth am gymwysterau a hyfforddiant a sut i chwilio am ac i baratoi am waith.

Cafodd disgyblion blwyddyn 10 hanner diwrnod o hyfforddiant ar sut mae gofal cymdeithasol yn helpu pobl i fyw eu bywydau'r ffordd maen nhw eu heisiau.

Roedd yr hyfforddiant yn bartneriaeth rhwng Gofalwn Cymru, Gyrfa Cymru a Leanne McFarland, Cydlynydd Rhanbarthol Gorllewin Cymru.

Rhaglen cyflwyniad i ofal cymdeithasol i bobl ifanc

Gall bobl ifanc sydd â diddordeb dysgu mwy am ofal cymdeithasol, neu sy’n ystyried gyrfa mewn gofal cymdeithasol, ymuno â’r rhaglen cyflwyniad i ofal cymdeithasol i bobl ifanc.

Mae’r rhaglen wedi’i theilwra i roi trosolwg o ofal cymdeithasol i bobl ifanc. Mae’n cynnwys cyflwyniad i:

  • rolau o fewn gofal cymdeithasol
  • rhinweddau a disgwyliadau gweithiwr gofal cymdeithasol
  • sut i ddod o hyd i swydd ym maes gofal cymdeithasol
  • dyletswydd gofal, risg a diogelu
  • Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • gweithio amlasiantaethol
  • cyfathrebu a rhwystrau
  • cyfrinachedd a chydsyniad
  • hyrwyddo annibyniaeth
  • gwydnwch a lles personol.

Mae’r hyfforddiant yn addas ar gyfer bobl ifanc rhwng 14 ac 17 oed ac mae’n cymryd diwrnod a hanner i’w gwblhau. Bydd yn rhedeg ym mis Awst a Hydref. I archebu lle neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â 02920 780596 neu e-bostiwch cyswllt@gofalwn.cymru.