Jump to content
Ymunwch â'n cymuned newydd ar bwnc gofal sy'n seiliedig ar le
Newyddion

Ymunwch â'n cymuned newydd ar bwnc gofal sy'n seiliedig ar le

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni'n lansio cymuned newydd ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn gofal sy'n seiliedig ar le.

Mae ymagwedd sy'n seiliedig ar le yn golygu gweithio gyda phobl sy'n darparu cymorth mewn ardal i fynd i'r afael ag anghenion unigryw'r bobl yno.

Byddwn yn rhoi mynediad i blatfform ar-lein i aelodau i rannu eu syniadau, tra byddwn hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar bynciau sydd o bwys i'r gymuned.

Cofrestrwch nawr i gysylltu ag eraill sy'n datblygu gofal sy'n seiliedig ar le yn eu hardal ac i ddysgu ganddynt.

Cysylltwch â Lilla Vér ar lilla.ver@gofalcymdeithasol.cymru i ddarganfod mwy neu i ddod yn aelod.

Pam ddylech chi ymuno â'r gymuned?

  • Mae’n rhad ac am ddim, ac yn agored i unrhyw un yng Nghymru sydd â diddordeb mewn defnyddio dulliau gofal a chymorth sy'n seiliedig ar le.
  • Gallwch ddefnyddio ein platfform ar-lein i rannu gwybodaeth, syniadau, digwyddiadau ac adnoddau gydag eraill.
  • Byddwn yn cynnal digwyddiadau rheolaidd ar gyfer aelodau ein cymuned, lle byddwn yn canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei ddysgu oddi wrth ein gilydd a sut y gallwn roi ein dysgu ar waith.

Ymunwch â'n digwyddiad dysgu cyntaf!

Byddwn yn clywed gan dîm cymorth taliadau uniongyrchol Cyngor Abertawe am eu hymgyrch Recriwtio Lleol yn y digwyddiad cyntaf yn ein Cyfres Archwilio.

Bydd aelodau’r tîm yn trafod eu profiad o gydweithio i wneud cysylltiadau rhwng cynorthwywyr personol a’r rhai sy’n chwilio am gymorth.

Rydyn ni'n cynnal y digwyddiad ar Zoom am 1pm ar 26 Mehefin. E-bostiwch Lilla ar lilla.ver@gofalcymdeithasol.cymru i archebu eich lle.