Jump to content
Ymestyn dyddiad cau ar gyfer categori Recriwtio a chadw staff yn effeithiol y Gwobrau 2022
Newyddion

Ymestyn dyddiad cau ar gyfer categori Recriwtio a chadw staff yn effeithiol y Gwobrau 2022

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Ydych chi wedi llwyddo i recriwtio neu gadw aelodau staff yn effeithiol dros y ddwy flynedd diwethaf? Os felly, beth am gymryd rhan yn y Gwobrau 2022?

Rydyn ni’n ymestyn y dyddiad cau ar gyfer categori ‘Recriwtio a chadw staff yn effeithiol’ Gwobrau 2022 tan 5pm ddydd Gwener, 10 Rhagfyr.

Ni waeth pa mor fawr neu fach yw eich menter, mae ein beirniaid yn awyddus i glywed gennych chi er mwyn i ni allu cydnabod, dathlu a rhannu’r ymarfer recriwtio a chadw gwych sy’n digwydd ar draws gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Dywedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Rydyn ni’n gwybod mai recriwtio a chadw staff yw un o’r materion mwyaf a phwysicaf sy’n wynebu’r sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar ar hyn o bryd.

“Ar ben hynny, rydyn ni’n gwybod bod llawer o gynlluniau da ar waith yn y sectorau sy’n ymwneud â recriwtio a chadw staff.

“Rydyn ni’n ymestyn y dyddiad cau ar gyfer y categori arbennig hwn oherwydd rydyn ni eisiau rhoi cyfle i bobl dynnu sylw at y mentrau recriwtio a chadw effeithiol maen nhw wedi’u defnyddio dros y blynyddoedd diwethaf – petai nhw’n gamau mawr neu fach – fel y gallwn ni gefnogi’r sectorau trwy rannu’r ymarfer da hynny mor eang â phosibl.

“Felly os ydych chi wedi recriwtio neu gadw staff yn effeithiol, ystyriwch rannu eich llwyddiant ag eraill trwy ymgeisio ar gyfer y Gwobrau 2022.”