Cyfrifoldeb pwy yw sicrhau nad ydym yn gwahaniaethu’n annheg yn erbyn pobl gyda nodweddion gwarchodedig, boed yn hil, ailbennu rhywedd, oedran, anabledd, rhyw, priodas a phartneriaeth sifil, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, neu grefydd neu gredo?
Yma yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn datgan ein bod yn wrth-hiliol ac yn falch o hynny. Fodd bynnag, mae digwyddiadau diweddar wedi bod yn pigo ar ein cydwybod ac wedi gwneud i ni gyd fyfyrio ar ei hymddygiad a’n hagweddau ni ein hunain ac fel sefydliad.
Rydym am arwain drwy esiampl. Rydym yn falch o amrywiaeth ein bwrdd, o ran rhyw, oedran, cefndir a phrofiadau byw. Ond eto mae pob cyfarfod lle gwneir penderfyniadau yn fôr o wynebau gwynion a dydyn ni ddim yn adlewyrchu amrywiaeth hiliol Cymru.
Hefyd, mae proffil ein staff yn wyn yn bennaf, gyda chymysgedd o ddynion a menywod o bob oedran ar bob lefel. Mae gennym dipyn go lew o staff BAME o gymharu â phoblogaeth Cymru, ond gan fod ein prif swyddfa wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, gallem wneud yn well yn adlewyrchu amrywiaeth y ddinas.
Rydym wedi ymrwymo i wella hyn ac am annog preswylwyr BAME i ystyried gwneud cais am swyddi staff neu Fwrdd os ydynt yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan.
Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn dysgu mwy am yr hyn rydym ni’n ei wneud a pham ddylech chi feddwl am weithio gyda ni, cysylltwch â fi yn sue.evans@gofalcymdeithasol.cymru.
Yn ddiddorol iawn, yn wahanol i’r GIG, mae’r sector gofal cymdeithasol yn cael ei ddominyddu gan fenywod gwyn yng Nghymru.
Mae ein cyhoeddiad diweddar am y gweithlu gofal cartref yn dangos bod 84 y cant yn fenywod, 96.5 y cant yn wyn a 3.5 y cant yn dod o gefndiroedd BAME. Dim ond 10 y cant sy’n siarad Cymraeg yn rhugl, tra bod gan 26 y cant rywfaint o Gymraeg a 64 y cant heb sgiliau Cymraeg o gwbl.
Mae angen newid hyn os ydym o ddifrif am ddarparu gofal a chymorth gwerth chweil. Mae darparu gofal a chymorth i rywun yn weithgarwch personol iawn, ac mae bond cyffredin o ymddiriedaeth, diwylliant ac iaith yn helpu i ddarparu’r gofal o’r ansawdd uchaf.
Mae’r pandemig hefyd wedi dangos anghydraddoldebau, gyda thystiolaeth bod y gymuned BAME mewn mwy o risg o effaith Covid-19.
Mae angen i ni wneud mwy i ddiogelu cydweithwyr drwy ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael a sicrhau mynediad at gyfarpar diogelu personol a phrofion.
Mae’r pandemig wedi dangos pa mor hanfodol yw’r gweithlu gofal cymdeithasol i lesiant pobl o bob oed mewn cymunedau ledled Cymru.
Heb ei gyfraniad hollbwysig, ni all y GIG weithio’n effeithiol, gan fod ein gweithwyr gofal cymdeithasol yn helpu i gadw pobl yn ddiogel, gan sicrhau eu bod ond yn cael eu cyfeirio i’r ysbyty os oes gwir angen iddynt fod yno.
Mae anghydraddoldebau iechyd yn cynyddu hefyd, a bydd effaith economaidd Covid-19 yn rhoi rhagor o bwysau ar deuluoedd sydd angen gofal a chymorth.
Rydym yn ymwybodol o’r effeithiau economaidd yn sgil Covid-19 a gallai Cymru fod yn fregus iawn oherwydd y mathau a’r amrediad o swyddi sydd ar gael neu mewn risg.
Yn ddiweddar, datgelodd y Pwyllgor Materion Economaidd yn Nhŷ’r Arglwyddi fod Credyd Cynhwysol yn methu’r bobl fwyaf bregus, gyda mwy o bobl yn defnyddio banciau bwyd ac mewn ôl-ddyledion rhent nag ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Os mai dim ond un diben sydd i’r wladwriaeth, diogelu ac amddiffyn ei dinasyddion rhag ymosodiadau ac anghyfiawnder yw hynny. Mae’r rhai mwyaf bregus angen sicrwydd y bydd y wladwriaeth yn darparu’r diogelwch hwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am eich safbwyntiau am ddyfodol Cymru – gofalwch eich bod yn dweud eich dweud.
I gyfieithu geiriau enwog Martin Luther King Jr: “Mae anghyfiawnder yn rhywle yn fygythiad i gyfiawnder ym mhobman”.