Jump to content
Rydyn ni’n cefnogi mis Pride
Newyddion

Rydyn ni’n cefnogi mis Pride

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n newid ein logo ar gyfer mis Mehefin unwaith eto i ddangos ein cefnogaeth o fis Pride 2023 ac i ddangos ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Byddwn ni’n defnyddio'r mis i godi ymwybyddiaeth ymhlith ein staff am hawliau LHDTC+ a’r pwysigrwydd o gefnogi Pride.

Byddwn ni hefyd yn cael sgyrsiau gyda'n staff i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i gefnogi'r gymuned LHDTC+ ac i ddileu gwahaniaethu, homoffobia a thrawsffobia.

Meddai Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Rydyn ni'n falch iawn unwaith eto o ddangos ein cefnogaeth o fis Pride a sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gydag aelodau o’r gymuned LHDTC+.

“Fel sefydliad rydyn ni wedi ymrwymo i wrth-wahaniaethu, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

“Rydyn ni eisiau i bobl LHDTC+ yn ein gweithlu ac yn y sectorau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a gofal plant, yn ogystal â'r rhai sy'n derbyn gofal a chymorth, ein gweld ni fel cefnogwr a chynghreiriad wrth ddathlu amrywiaeth a mynd i'r afael â gwahaniaethu lle bynnag y mae'n codi.

“Mae newid ein logo ar gyfer y mis yn arwydd symbolaidd o undod, ond rydyn ni am i'n cefnogaeth olygu llawer mwy drwy helpu i godi ymwybyddiaeth o LHDTC+ yn fewnol ac yn allanol, a sicrhau nad yw'r gweithwyr LHDTC+ hynny ar ein Cofrestr yn anweledig.

“Rydyn ni hefyd am ddangos i unrhyw un LHDTC+ sy’n ymgeisio am swydd y gallan nhw deimlo'n 'ddiogel' a bod yn driw i’w hunain os byddan nhw'n gweithio i ni."

Ychwanegodd Sue: “Rwy’n dymuno mis Pride hapus i’n holl weithwyr gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a gofal plant ac i bawb sy’n derbyn gofal a chymorth gan y gymuned LHDTC+ yng Nghymru.”