Jump to content
Cyfres gweminar: cefnogi plant sydd wedi profi trawma
Newyddion

Cyfres gweminar: cefnogi plant sydd wedi profi trawma

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n cynnal cyfres o weminarau ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda phlant sydd wedi profi trawma.

Byddwch yn clywed gan arbenigwyr o'u maes, a fydd yn esbonio sut y gall trawma effeithio ar blant, ac yn rhoi awgrymiadau ymarferol er mwyn i chi cefnogi nhw.

Mae’r gweminarau ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio mewn gofal preswyl gyda phlant a allai fod wedi profi trawma, gan gynnwys:

  • pobl sy'n datblygu gwasanaethau preswyl i blant
  • rheolwyr preswyl i blant
  • gweithwyr preswyl i blant
  • pobl sy'n cefnogi plant a phobl ifanc mewn lleoliadau preswyl
  • pobl sy'n cefnogi'r gweithlu mewn lleoliadau preswyl i blant.

Mae'r gweminarau am ddim a byddant yn para tua 90 munud.

Dywedodd Jessica Matthews-West, Rheolwr Gwella a Datblygu gyda Gofal Cymdeithasol Cymru:

“Rydyn ni am gefnogi pobl sy’n darparu gofal cymdeithasol i blant i fynd i’r afael â heriau ac archwilio syniadau.

“Mae’r gweminarau hyn yn gyfle gwych i glywed arfer gorau, a darganfod mwy am sut mae trawma yn effeithio ar blant mewn gofal preswyl.”

Archebu eich lle

Gall mynychu’r gweminar hefyd bod yn gyfle i ychwanegu at eich datblygiad proffesiynol parhaus (CPD), os ydych wedi cofrestru gyda ni.

Cliciwch ar y dyddiadau’r digwyddiadau isod i archebu eich lle.

Mae cofrestru yn cau 48 awr cyn y digwyddiad.