Jump to content
Gweminar: beth yw ymarfer sy'n seiliedig ar drawma mewn gofal preswyl i blant?
Digwyddiad

Gweminar: beth yw ymarfer sy'n seiliedig ar drawma mewn gofal preswyl i blant?

Dyddiad
24 Mehefin 2025, 10.30am i 12.30pm
Lleoliad
Ar-lein (Microsoft Teams)
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru gyda Straen Trawmatig Cymru a UK Trauma Council

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r weminar hon ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant mewn gofal preswyl a allai fod wedi profi trawma, gan gynnwys:

  • pobl sy'n datblygu gwasanaethau preswyl i blant
  • rheolwyr preswyl i blant
  • gweithwyr preswyl i blant
  • pobl sy'n cefnogi plant a phobl ifanc mewn lleoliadau preswyl
  • pobl sy'n cefnogi'r gweithlu mewn lleoliadau preswyl i blant.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwn yn:

  • esbonio dulliau gofal wedi'i lywio gan drawma, a sut mae'n edrych mewn lleoliadau preswyl i blant
  • esbonio sut mae digwyddiadau trawmatig yn effeithio ar blant a phobl ifanc mewn lleoliadau preswyl
  • dangos i chi beth allwch chi ei wneud i gefnogi amgylchedd lle mae plant a phobl ifanc yn fwyaf tebygol o wella
  • eich helpu i gynllunio’r camau nesaf i chi a’ch tîm ddod yn fwy ‘gwybodus am drawma’.

Archebu eich lle

I gael rhagor o wybodaeth am y gweminar hwn, e-bostiwch: gofalpreswylplant@gofalcymdeithasol.cymru